Newyddion

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Datgan bod yr achos o'r frech goch yng Nghasnewydd a Thorfaen drosodd

Wedi ei bostio ar Tuesday 3rd October 2017

Datganwyd bod achos o'r frech goch a effeithiodd ar ardaloedd Casnewydd a Thorfaen drosodd.

Arweiniodd yr achos, a fu'n destun ymchwiliad ers mis Mai, at gadarnhau bod 17 o bobl â'r frech goch, ond ni chafwyd unrhyw achosion newydd ers canol mis Awst.

Mae cyfanswm o 1,238 o blant wedi'u brechu mewn sesiynau ysgol a drefnwyd ledled y ddwy sir.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio rhieni a phobl ifanc er bod yr achos drosodd bellach, mae risg o'r frech goch o hyd i bobl nad ydynt wedi'u brechu'n llawn gyda dau ddos o MMR.

Roedd gan yr achos yng Nghasnewydd a Thorfaen gysylltiadau uniongyrchol ag achos mawr o'r frech goch yn Ewrop, sy'n parhau i fynd rhagddo ac sydd â'r potensial o hyd i achos rhagor o achosion o'r frech goch yng Nghymru.

Dywedodd Dr Rhianwen Stiff, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Cafodd yr achos hwn ei achosi gan yr un math o'r frech goch sydd wedi bod ar led yn Ewrop, sydd ond yn daith fer i ffwrdd ar awyren.

"Gyda phobl yn teithio'n rheolaidd rhwng Cymru a'r cyfandir, mae posibilrwydd o hyd y daw pobl i gysylltiad â haint y frech goch, a phobl nad ydynt wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddatblygu'r frech goch naill ai gartref neu dramor. Byddem yn annog rhieni a phobl ifanc i wneud trefniadau i ddal i fyny ar ddosau a gollwyd.

"Hoffwn ddiolch i gydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, gofal sylfaenol a'r gwasanaethau nyrsio ysgolion, y mae eu gweithredu prydlon wedi helpu i atal y frech goch rhag lledu ymhellach ac maent wedi helpu i ddod â'r achos hwn i ben."

Dylai plant â symptomau'r frech goch - sy'n cynnwys tymheredd uchel, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch (llid pilen y llygad), a brech goch nodweddiadol - gael eu cadw gartref o'r ysgol, meithrinfeydd a digwyddiadau cymdeithasol.

Dylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn y frech goch gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 am asesiad ac ni ddylent fynd i ystafelloedd aros mewn meddygfeydd nac ysbytai.

Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pan maent rhwng 12 a 13 mis oed a'r ail pan fyddant yn dair oed a phedwar mis, ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar ddosau a gollwyd.

Gall tua un o bob pump o blant â'r frech goch brofi cymhlethdodau difrifol fel heintiau yn y glust, niwmonia neu lid yr ymennydd. Mae un o bob 10 o blant â'r frech goch yn gorfod mynd i'r ysbyty ac mewn achosion prin gall fod yn angheuol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y frech goch, gan gynnwys dolen i dystiolaeth fideo gan fam y gwnaeth ei merch tair oed heb ei brechu gael y frech goch yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44195

Ends Public Relations Newport City Council 01633 210461

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.