Cynlluniau'r Cyngor i dargedu trolïau siopau sy'n cael eu gadael
Wedi ei bostio ar Monday 23rd October 2017
Mae cynllun i weithio’n agosach gyda chwmni cenedlaethol sy’n casglu trolïau siopau coll wedi’i gytuno gan Gyngor Dinas Casnewydd.
Mae Aelod Cabinet y Cyngor dros y Strydlun, y Cynghorydd Roger Jeavons, wedi cyfarfod â Trolleywise sy’n gweithio gydag awdurdodau lleol ledled y wlad i fynd i’r afael â’r broblem.
Mae Trolleywise yn cynnig ystod o wasanaethau i ddychwelyd trolïau wedi gadael i archfarchnadoedd lleol ac i batrolio mannau lle y mae achosion o adael trolïau’n gyffredin mewn cymunedau lleol.
Yn aml caiff trolïau eu gadael ar ffyrdd, llwybrau cerdded ac mewn parciau. Gallan nhw beri damweiniau ac maen nhw’n edrych yn hyll yn y gymuned.
Caiff llawer ohonyn nhw eu dympio mewn dyfrffyrdd, afonydd a chamlesi lleol ac maen nhw’n gallu niweidio bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn gyffredinol.
Er 2006, mae Trolleywise wedi casglu a dychwelyd mwy na 5 miliwn o trolïau siopau coll o strydoedd ac afonydd lleol yn y DU, gan weithio’n agos gyda nifer o archfarchnadoedd, awdurdodau lleol, yr Heddlu a thimau’r Strydlun yn y DU.
Meddai'r Cynghorydd Jeavons: “Mae Trolleywise yn cynnig ffordd ddiogel ac effeithiol o adfer trolïau coll sy’n anodd eu cyrraedd. Mae hynny'n fanteisiol i'r cyhoedd, manwerthwyr a chymunedau.
“Mae trolïau sy’n cael eu gadael yn wir yn niwsans a bydd y bartneriaeth hon gyda Trolleywise yn helpu i leihau nifer y digwyddiadau o’r fath.”
Mae Trolleywise yn sicrhau eu bod nhw hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd ac â Chyfoeth Cenedlaethol Cymru ym mhob man lle y mae angen casglu trolïau.
Drwy ddefnyddio cerbydau arbenigol ac offer adfer, mae Trolleywise yn gallu casglu trolïau o ddyfrffyrdd, camlesi a lleoliadau trafferthus a pheryglus eraill.
Gall trigolion roi gwybod am drolïau coll ar wefan Trolleywise yn Trolleywise O 2018 ymlaen bydd trigolion hefyd yn gallu rhoi gwybod am droli sydd wedi’i adael trwy ddefnyddio app am ddim Trolleywise.