Newyddion

Cyhoeddi Llwybr Marathon ABP Casnewydd Cymru

Wedi ei bostio ar Tuesday 31st October 2017
Newport Wales Marathonlogo

Bydd Marathon ABP Casnewydd Cymru yn cynnig y cyfle i redwyr redeg yn gynt nag erioed ar un o gyrsiau mwyaf gwastad y DU.

Mae’r llwybr wedi ei gadarnhau’n derfynol ar gyfer y ras 26.2 agoriadol, a bydd mwy na 5,000 o bobl yn cystadlu ynddi ar 29 Ebrill 2018.  

Y rhedwr marathon a’r cystadleuydd Olympaidd ar ddau achlysur, Steve Brace, a bennodd llwybr marathon cenedlaethol newydd Cymru. Bydd y ras yn dechrau ac yn dod i ben ar lannau bywiog yr afon yng Nghasnewydd a bydd modd gweld rhai o dirnodau mwyaf eiconig y ddinas ac arfordiroedd hardd de Cymru ar ei hyd.

Bydd y llwybr un tro yn mynd â rhedwyr heibio i Brifysgol De Cymru a bwrlwm canolfan siopa Friars Walk, cyn croesi Pont Casnewydd, ochr ddwyreiniol y ddinas a’r rhannau gwledig tuag at Fagwyr.  Bydd cyfle perffaith i’r cefnogwyr weld eu hanwyliaid a rhedwyr elitaidd yn nhref ganoloesol y Redwig cyn iddyn nhw droi yn ôl tuag at ganol y ddinas, ar ei newydd wedd.

Ond cyn paratoi at garlamu ar hyd Afon Wysg tua’r llinell groesi, bydd cyfle i redwyr fwynhau bywyd gwyllt Gwastatiroedd Gwent a Gwlyptiroedd Casnewydd.

Gweld y map llwybr

Dywedodd Matthew Kennerley, Cyfarwyddwr ABP De Cymru:  “Mae'n hynod gyffrous bod Llwybr Marathon ABP Casnewydd Cymru wedi'i ddylunio fel y bydd yn tywys rhedwyr drwy ran helaeth o Gasnewydd.  Bydd y llwybr yn arddangos y ddinas a’r hyn sydd ganddi i gynnig yn wych.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr brwd dirifedi i strydoedd Casnewydd."

Mae disgwyl y bydd y ras yn hawlio’r 2,000 o leoedd sydd ar ôl ar gyfer marathon cenedlaethol newydd Cymru.  Mae'r nifer sydd wedi cofrestru'n bell dros 3,000 ac mae rhedwyr o ledled y DU a'r tu hwnt wedi sicrhau lle i'w hunan ar y llinell ddechrau.  

Dywedodd Prif Weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Bydd llwybr Marathon ABP Casnewydd Cymru yn gwneud y marathon newydd o’i fath, sy'n croesawu miloedd i gymryd rhan, yn un o’r cyflymaf o'r math hwn.

“Mae Cyfarwyddwr y Ras, Steve Brace, y dyn a ddyfeisiodd lwybr Hanner Marathon poblogaidd Prifysgol Caerdydd/Caerdydd, wedi cynnwys y cyfan.   O Ardal Fusnes Casnewydd ar ei newydd wedd i’w Gwlyptiroedd tlws, bydd rhedwyr yn gallu herio eu hunain ar lwybr un lap unigryw.

“Bydd cyfle perffaith i ffrindiau a theuluoedd annog eu hanwyliaid ar y llwybr 26.2 milltir, ac rydyn ni'n methu aros at gynnal marathon o safon fyd-eang ar strydoedd yng Nghasnewydd ddydd Sul 29 Ebrill."

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae’n gyffrous gweld bod Marathon Casnewydd Cymru’n mynd i gynnwys cynifer o elfennau ein dinas amrywiol.  Rydyn ni’n hyderus y byddwn yn cynnig cyfle gwych i redwyr ar y diwrnod.

“Byddwn ni hefyd yn gweithio'n agos gyda thrigolion a sefydliadau ar hyd y llwybr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael gwybod yr holl wybodaeth ac er mwyn osgoi anghyfleustra lle bo modd.

“Mae hwn yn gyfle gwych i’r ddinas ac rwy’n annog y cyhoedd a busnesau i gymryd rhan ynddo.”

Bydd Marathon ABP Casnewydd Cymru'n aelod o AIMS Cymdeithas Ryngwladol Marathonau a Rasys Pellter) a chaiff ei fesur gan Fesurydd AUKCM Gradd 1/IAAF/AIMS Cwrs Gradd B.

Gall rhedwyr gofrestru o hyd drwy fynd i www.newportwalesmarathon.co.uk/register ac mae modd talu’r pris cynnig cynnar o hyd, sef £45. 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.