Newidiadau i geisiadau meithrin yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 30th May 2017
Mae ymgeisio am le meithrin yng Nghasnewydd yn mynd i fod yn symlach.
Ar gyfer lleoedd meithrin yn ysgolion Casnewydd yn 2018, mae’r broses ymgeisio a’r amserlen yn newid gyda’r nod o wneud y broses yn haws i rieni.
Mae plant yn gymwys am le meithrin yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed ac yng Nghasnewydd gall hyn fod mewn dosbarth / ysgol feithrin a gynhelir neu mewn lleoliad nas cynhelir (grŵp chwarae neu feithrinfa dydd preifat).
Am le meithrin ym Medi 2018 (meithrinfeydd a gynhelir yn unig), gellir gwneud ceisiadau rhwng 3 Gorffennaf a 18 Medi 2017.
Fodd bynnag, yn wahanol i'r blynyddoedd diwethaf, nid oes angen i rieni gyflwyno cais ar wahân ar gyfer lle Rising 3. Gellir cynnig lleoedd Rising 3 i blant a anwyd rhwng 1 Medi a 31 Mawrth, gyda dyddiad dechrau mewn meithrinfa o Ionawr neu Ebrill 2018.
Ar ôl i gais meithrin gael ei wneud, os oes lle Rising 3 ar gael, caiff rhieni eu hysbysu’n awtomatig a chynigir y lle iddynt.
Nid yw plant a anwyd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys am le Rising 3.
Dyddiadau allweddol
3 Gorffennaf – 18 Medi 2017
Cyfnod ymgeisio am leoedd meithrin 2018
30 Tachwedd 2017
Penderfyniadau'n cael eu cyhoeddi ar gyfer lleoedd Medi 2018
Cynigir lleoedd Rising 3 Ionawr 2018 (os oes rhai ar gael)
2 Mawrth 2018
Cynigir lleoedd Rising 3 Ebrill 2018 (os oes rhai ar gael)
Mae’r cyngor yn gyfrifol am dderbyniadau i ysgolion meithrin cymunedol ond am le meithrin mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu leoliad nas cynhelir, dylid gwneud ymholiadau yn uniongyrchol i'r ysgol neu'r darparwr.
Mae lleoedd Cymraeg a Saesneg ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth a ffurflenni cais, ewch i www.newport.gov.uk/schooladmissions