Newyddion

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Annog y brechlyn MMR wrth i achosion o'r frech goch gael eu datgan yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 5th June 2017

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR wrth iddo ymchwilio i achosion o'r frech goch sydd yn gysylltiedig ag ysgol yng Nghasnewydd.

Cadarnhawyd bod gan bedwar o bobl â chysylltiadau ag Ysgol Uwchradd Lliswerry y frech goch. Cysylltwyd â rhieni disgyblion yr ysgol, ac mae sesiynau brechu'n cael eu cynnal yno'r wythnos hon.

Dylid cadw plant â symptomau'r frech goch - yn cynnwys gwres uchel, peswch, llygaid coch (llid yr amrannau), a brech goch neilltuol - gartref o'r ysgol.

Dylai rhieni hefyd gysylltu â'u meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47, a'u hysbysu o'r symptomau cyn mynychu unrhyw apwyntiad.

Dywedodd Heather Lewis, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Er nad yw pedwar achos o'r frech goch yn ymddangos yn uchel, gwyddom y gallai plant eraill sy'n mynychu'r ysgol sydd heb gael eu brechu ddal a lledaenu'r frech goch yn hawdd.

"Rydym wedi ysgrifennu at rieni â phlant yn yr ysgol i'w hysbysu o'r peryglon, a byddwn yn cynnal brechiadau yn yr ysgol yr wythnos hon.

"Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd i atal nifer fawr o achosion yw trwy frechu. Rydym yn annog rhieni y mae eu plant heb dderbyn dau ddos o MMR i sicrhau eu bod yn siarad â'u meddyg teulu ar unwaith i drefnu cael y brechlyn cyflym, diogel ac effeithiol hwn."

Anogir oedolion sydd erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR sydd yn gweithio mewn cysylltiad agos â phlant i sicrhau eu bod yn siarad â'u meddyg teulu am frechu.

Rhoddir y dos cyntaf o MMR i blant yn 12 mis oed fel arfer a'r ail yn dair oed a phedwar mis, ond nid yw byth yn rhy hwyr i gael dosau a gollwyd.

Argymhellir y brechlyn MMR gan Sefydliad Iechyd y Byd, Adran Iechyd y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y ffordd fwyaf effeithiol a diogel o ddiogelu plant rhag y frech goch.

Gall tua 1 mewn 5 o blant â'r frech goch gael cymhlethdodau difrifol fel heintiau'r glust, llid yr ysgyfaint neu lid yr ymennydd. Mae un ym mhob 10 o blant â'r frech goch yn cael eu derbyn i'r ysbyty ac mewn achosion prin, gall fod yn angheuol.

Mae mwy o wybodaeth am y frech goch, yn cynnwys dolen i dystiolaeth fideo gan fam y cafodd ei merch tair oed y frech goch, ar gael yn http://www.publichealthwales.org/measles

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.