Newyddion

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Rhagor o frechiadau MMR mewn ymateb i'r achos o'r frech goch

Wedi ei bostio ar Thursday 15th June 2017

Mae sesiynau brechu llwyddiannus wedi'u cynnal mewn chwe ysgol gynradd yn yr un ardal ag ysgol uwchradd yng Nghasnewydd lle cafwyd achos o'r frech goch.

Cynigiwyd brechiadau MMR i ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Somerton, Ysgol Gynradd Llysweri, Ysgol Gynradd Eveswell, Ysgol Gynradd Sant Andreas, Ysgol Gynradd Pillgwenlli ac Ysgol Gynradd Maendy ddydd Gwener.

Cafodd cyfanswm o 171 o ddisgyblion eu brechu yn y sesiynau, ar ôl i 123 o blant yn Ysgol Uwchradd Llysweri gael eu brechu yn gynharach wythnos diwethaf.

Mae'r sesiynau yn dilyn cadarnhau pum achos o'r frech goch sy'n gysylltiedig â'r ysgol uwchradd. Cafodd yr achos diweddaraf ei gadarnhau mewn plentyn a aeth yn sâl ddechrau wythnos diwethaf.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i annog rhieni i sicrhau bod eu plant wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR i'w diogelu rhag y frech goch a'i chymhlethdodau.

Dylai plant â symptomau'r frech goch - sy'n cynnwys twymyn, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch (llid pilen y llygad), a brech goch nodweddiadol - gael eu cadw gartref o'r ysgol.

Dylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn y frech goch gysylltu â'u meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 am asesiad. Dylent hefyd dynnu sylw eu meddyg teulu at y symptomau cyn mynd i unrhyw apwyntiad.

Dywedodd Heather Lewis, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym yn falch gyda'r nifer a gafodd y brechlyn MMR yn yr ysgolion yng Nghasnewydd lle rydym wedi cynnal sesiynau brechu ac yn parhau i weithio er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn i gyfyngu ar ledaeniad haint y frech goch.

"Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd o atal achosion mawr yw drwy frechu. Rydym yn annog rhieni nad yw eu plant wedi cael y ddau ddos diweddaraf o MMR i sicrhau eu bod yn cysylltu â'u meddygfa ar unwaith er mwyn trefnu'r brechlyn cyflym, diogel ac effeithiol hwn."

Yn ogystal, anogir oedolion a anwyd ers 1970, nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR, i sicrhau eu bod yn cysylltu â'u meddygfa ynghylch brechu, yn enwedig os ydynt yn gweithio gyda phlant.

Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pant maent rhwng 12 a 13 mis oed a'r ail pan fyddant yn dair oed a phedwar mis, ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar ddosau a gollwyd.

Mae'r brechlyn MMR yn cael ei argymell gan Sefydliad Iechyd y Byd, Adran Iechyd y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y ffordd fwyaf effeithiol a diogel o ddiogelu plant rhag y frech goch.

Gall tua 1 o bob 5 o blant â'r frech goch brofi cymhlethdodau difrifol fel heintiau yn y glust, niwmonia neu lid yr ymennydd. Mae un o bob 10 o blant â'r frech goch yn gorfod mynd i'r ysbyty ac mewn achosion prin gall fod yn angheuol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y frech goch, gan gynnwys dolen i dystiolaeth fideo gan fam y gwnaeth ei merch tair oed heb ei brechu gael y frech goch yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44195

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.