Newyddion

Casnewydd yn croesawu ymwelwyr Georgaidd

Wedi ei bostio ar Tuesday 20th June 2017

Croesawodd Cyngor Dinas Casnewydd ddirprwyon o'i gefaill ddinas Kutaisi a'r Llysgenhadaeth Georgaidd i'r Ganolfan Ddinesig.

Cyfarfu Maer Casnewydd, y Cynghorydd David Fouweather, arweinydd y Cyngor Debbie Wilcox a'r Prif Weithredwr Will Godfrey â'r cynrychiolwyr.

Roedd aelodau o Sefydliad Gefeillio Kutaisi Casnewydd, a drefnodd yr ymweliad, hefyd yn bresennol gan gynnwys y Fonesig Rosemary Butler.

Bu sgyrsiau gyda'r Cennad Georgaidd yn dilyn cyflwyniad gan y Cynghorydd Wilcox ar reoli a datblygu'r ddinas.

Cafwyd cyflwyniadau hefyd gan Goleg Gwent ac elusen pêl-droed Cymru GOL.

Ar ôl taith i weld murluniau Hans Feibusch a siambr y Cyngor, cafodd y gwesteion arbennig ginio cyn gadael i ymweld â chanol y ddinas, gan gynnwys Kutaisi Walk.

Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: "Roeddem yn falch o groesawu ein ffrindiau o Kutaisi ynghyd â'r Llysgennad Georgaidd a dirprwyon o'r llysgenhadaeth i Gasnewydd.

  "Mae Casnewydd wedi cael perthynas gyfeillgar a chynhyrchiol gyda Kutaisi am dros chwarter canrif. Rwy'n gobeithio bod y cyflwyniadau wedi bod yn ddefnyddiol ac iddynt fwynhau eu hamser gyda ni."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.