Newyddion

Bydd digwyddiadau yng Nghasnewydd yn dod â chymunedau ynghyd

Wedi ei bostio ar Thursday 15th June 2017

Bydd cymunedau yng Nghasnewydd yn dod at ei gilydd yr wythnos hon yn rhan o’r Ymgynulliad Mawr a'r Cinio Mawr.

Drwy ddigwyddiadau o’r fath, mae’r Eden Project yn cefnogi ac yn annog pobl o bob cwr o'r DU i gymryd camau cadarnhaol sy'n cryfhau cysylltiadau lleol ac yn adeiladu cymunedau mwy cadarn.

Ers iddo ddechrau nôl yn 2009, mae'r Cinio Mawr - sef ymgynulliad blynyddol y DU ar gyfer cymdogion - wedi tyfu'n sylweddol. Yn 2016, daeth 7.3 miliwn o bobl at ei gilydd ar eu strydoedd, yn eu gerddi ac yn eu cymdogaethau i gymryd rhan am ychydig o oriau ac ymuno yn yr hwyl, y cyfeillgarwch a’r ysbryd cymunedol mewn mwy na 90,000 o ddigwyddiadau.  

Yn ogystal â hynny, bydd yr Ymgynulliad Mawr (16-18 Mehefin) yn lasio eleni – sef penwythnos o bartis stryd, picniciau a chystadlaethau pobi - wedi'i ysbrydoli gan Jo Cox, a fu farw ar 16 Mehefin y llynedd. Mae hefyd yn bwriadu dod â phobl at ei gilydd yn eu cymdogaethau a dathlu popeth sy’n ein huno. 

Parti gardd y Cinio Mawr

Rhandir Cymunedol Tŷ Tredegar

12 – 2pm, dydd Gwener 16 Mehefin 2017

Yn y digwyddiad a drefnir gan grŵp Cymunedau yn Gyntaf Casnewydd ac a gefnogir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Growing Space, Cartrefi Dinas Casnewydd, Duffryn Community Link a Chyswllt Cymunedol, bydd y rhai sy’n bresennol yn mwynhau te, coffi, cacenni, hufen a mefus, yn ogystal â chwmni gwych.

Mae'r rhandir cymunedol ar agor bob dydd Mercher rhwng 9.30am a 12pm i bobl o bob oedran o ardaloedd Dyffryn, Maesglas a’r Gaer – croeso i bawb, nid oes angen i chi fod â diddordeb mewn garddio!

Te parti'r Ymgynulliad Mawr

Ystafell y Castell, Canolfan Casnewydd

2pm, dydd Gwener 16 Mehefin 2017

Mae Age Cymru hefyd yn cynnal digwyddiad yng Nghanolfan Casnewydd ar gyfer pobl hŷn ar draws y ddinas.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau a digwyddiadau'r Cinio Mawr a’r Ymgynulliad Mawr, ewch i www.edenprojectcommunities.com/thebiglunchhomepage

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.