Cabinet y Cyngor yn cytuno ar brotocol i ryddhau cyllid
Wedi ei bostio ar Thursday 15th June 2017
Efallai y bydd mwy na £2 filiwn yn cael ei ryddhau ar gyfer cynlluniau adfywio economaidd yng Nghasnewydd yn dilyn cytundeb rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
Mae cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi penderfynu y dylai'r Cyngor ofyn i Lywodraeth Cymru gymeradwyo protocol a fyddai'n rhyddhau arian o fentrau ar y cyd.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rydyn ni'n falch o'n hanes o ran gwaith adfywio ledled y ddinas ond rydyn ni'n gwybod bod modd gwneud cymaint mwy.
"Yn dilyn ei ryddhau, bydd cyllid a grewyd drwy nawdd gan y sefydliad gynt Newport Unlimited yn cyfrannu'n sylweddol at y gwaith angenrheidiol a pharhaus hwn.
"Y bwriad, gan ddibynnu ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru, yw defnyddio cyfanswm y cyllid ar gyfer gweithgareddau adfywio economaidd yn y ddinas.
"Rydyn ni am adeiladu dinas fwy llewyrchus drwy greu a chynnal cyflogaeth o ansawdd da ar gyfer ein dinasyddion, drwy adfywio rhannau o'r ddinas a thrwy wella'r amgylchedd ar gyfer trigolion a gweithwyr."
Newport Unlimited oedd enw'r corff adfywio trefol y sefydlodd y Cyngor a Llywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen i adfywio'r ddinas rhwng 2003 a 2014.