Newyddion

Felothon Cymru 2017

Wedi ei bostio ar Tuesday 4th July 2017

Bydd Felothon Cymru yn dychwelyd i ffyrdd de Cymru ddydd Sul 9 Gorffennaf, yn croesawu rhai o feicwyr proffesiynol gorau’r byd yn ogystal â miloedd o feicwyr hamdden a phobl yn codi arian at elusennau.

Er mwyn sicrhau diogelwch i feicwyr, bydd angen cau ffyrdd a chyflwyno cyfyngiadau parcio ar hyd y llwybr, sy'n cynnwys rhannau o Gasnewydd a Chaerllion.

Mae’r trefnwyr wedi gweithio gyda’r pum awdurdod lleol y mae’r digwyddiad ynddyn nhw er mwyn datblygu system cau ffyrdd rhaeadrol a fydd yn rhoi’r gallu i rannau o’r llwybr ail agor rhwng y beicwyr amatur a’r rhai proffesiynol heb gau trwy’r dydd fel yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd hyn yn rhoi cyfle i breswylwyr symud i ffwrdd oddi wrth y digwyddiad os oes angen.

Mae modd lawrlwytho map yn dangos y patrwm cau a gynigir o Velothon Wales website

Oherwydd natur y digwyddiad, mae’n anodd rhoi union amser y cau; fodd bynnag, mae’r ras 140 cilomedr o hyd yn cychwyn yn Rhodfa'r Brenin Edward VII yng Nghaerdydd am 08:15am a bydd y beicwyr olaf yn gadael tua 08:40am.

Bydd ras y beicwyr proffesiynol yn cychwyn am 12:45pm o flaen Castell Caerdydd ac mae disgwyl i’r arweinwyr gyrraedd y llinell derfynol tua 4:30pm.

Mae’r trefnwyr yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw anghyfleustra ac yn sicrhau y bydd cyn lleied o darfu â phosibl.

Maen nhw hefyd am ddiolch i breswylwyr am eu dealltwriaeth ac maen nhw’n ddiolchgar am eich cefnogaeth a'ch cydweithrediad.

Os ydych am holi am y cau ffyrdd neu am broblemau lleol, cysylltwch â rhif Felothon Cymru sy’n arbennig ar gyfer preswylwyr ar 02921 660 790.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.