Newyddion

Cytuno ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Pillgwenlli

Wedi ei bostio ar Tuesday 25th July 2017

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cefnogi camau i roi gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus (PSPO) ar waith ym Mhillgwenlli.

Bwriad y gorchymyn yw atal unigolion neu grwpiau rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus lle y maent yn achosi niwsans i’r gymuned leol ac yn tarfu ar ansawdd bywyd pobl leol.

Cytunodd Cynghorwyr yn ffurfiol i fabwysiadu’r gorchymyn mewn cyfarfod Cyngor llawn ddydd Mawrth 25 Gorffennaf, yn dilyn adolygiad manwl gan y Pwyllgor Craffu a thrwy ymgynghoriad cyhoeddus.

Bydd y gorchymyn yn sicrhau y bydd gan swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bwerau gorfodi troseddol ychwanegol wrth law i ddelio â digwyddiadau penodol o ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mhillgwenlli.

Bu i’r Cyngor greu a gweithredu gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus ym mis Tachwedd 2015 yng nghanol dinas Casnewydd, ar gais Heddlu Gwent, ac mae newidiadau cadarnhaol eisoes wedi’u gweld.

Mae torri’r gorchymyn yn drosedd a gellir derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB) o hyd at £100 neu ddirwy o hyd at £1,000 ar ôl erlyniad yn y llys.

Mae PSPO Pillgwenlli yn cynnwys:

1. Gwahardd yfed alcohol yn gyhoeddus; yr un gwaharddiad sydd ar waith yng nghanol y ddinas. Bydd pwerau gan swyddogion yr heddlu a SCCHau i atal pobl rhag yfed alcohol ac i ofyn i'r bobl hynny roi unrhyw boteli neu ganiau iddynt i rwystro niwsans neu anhrefn cyhoeddus.

2. Rhoi pŵer i swyddogion yr Heddlu a SCCHau i wasgaru grŵp o dri neu fwy o bobl os ydynt yn achosi trafferth.

3. Gwahardd unrhyw berson rhag bod ag unrhyw sylwedd meddwol arall yn eu meddiant (h.y. “sylweddau anterth cyfreithlon”),  neu ei werthu neu ei gyflenwi.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio:

“Bydd y PSPO hwn o fudd i gymdogaeth Pillgwenlli a bydd trigolion yn teimlo'n fwy diogel o wybod y gall yr Heddlu rannu gangiau o bobl ac atafaelu alcohol os oes angen.

“Mae'r PSPO yng nghanol y ddinas wedi bod yn llwyddiannus ac rydym yn gobeithio y bydd un Pillgwenlli yn llwyddo cystal.” 

Dywedodd Arolygydd o Heddlu Gwent, Paul Davies, sy’n arwain Tîm Plismona Cymdogaeth Pillgwenlli: “Mae Heddlu Gwent yn gweithio’n galed gyda’n holl bartneriaid i helpu i wella delwedd Pillgwenlli i ymwelwyr ac yn bwysicach i sicrhau ansawdd bywyd i’r trigolion sy’n byw yno.

“Rydym yn mynd i’r afael ag ystod eang o broblemau sy’n dod i’n sylw’n ddyddiol. Diben Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) yw mynd i’r afael â niwsans neu broblemau mewn ardal benodol sy’n niweidiol i’r gymuned leol drwy osod amodau ar bawb. Drwy hynny, mae’n bosibl i’r rhan fwyaf o bobl, sy’n ufuddhau i’r gyfraith, ddefnyddio a mwynhau ein mannau cyhoeddus a bod yn ddiogel rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae’r gorchymyn hwn yn un o gyfres o fesurau y gellir eu defnyddio i addysgu ac, os oes angen, i erlyn y lleiafrif o bobl sy’n tramgwyddo. Gwyddom y bu'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus hyn yn llwyddiant mewn rhannau eraill o Gasnewydd a Gwent ac rydym yn ymrwymo i gydweithio i sicrhau'r un canlyniad ym Mhillgwenlli.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.