Cam nesaf i wneud Casnewydd yn Ddinas Ddemocratiaeth
Wedi ei bostio ar Thursday 13th July 2017
Gofynnir i gabinet Cyngor Dinas Casnewydd gytuno ar strategaeth ar gyfer hybu Casnewydd fel y Ddinas Ddemocratiaeth pan fydd yn cyfarfod ddydd Mercher 19 Gorffennaf.
Y llynedd, comisiynodd y Cyngor adroddiad gan felin drafod annibynnol, sef ResPublica, i archwilio sut y gellir datblygu’r cysyniad.
Datgelwyd yr adroddiad cynhwysfawr yn Uwchgynhadledd y Ddinas ym mis Tachwedd ac fe’i cefnogwyd gan bartneriaid o ledled Casnewydd.
Mae cyfres o gynigion i alluogi'r fenter i fynd yn ei blaen yn cael ei dwyn gerbron y cabinet gan gynnwys mabwysiadu is-bennawd Dinas Ddemocratiaeth ar gyfer brandio a chreu Gŵyl Ddemocratiaeth flynyddol.
Argymhellir hefyd bod y Cyngor yn archwilio syniadau i annog trigolion i gymryd rhan mwy mewn ymgynghoriadau a phenderfyniadau ar faterion sy’n effeithio ar eu bywydau a dyfodol Casnewydd.
Gofynnir i’r cabinet ddyrannu £100,000 ar gyfer y gweithgareddau hyn gyda’r disgwyliad y bydd partneriaid hefyd yn cyfrannu wrth i’r project fynd yn ei flaen. Lle bo’n bosibl, gwerir y gyllideb trwy gyflenwyr lleol.
Mae Rhwydwaith Economaidd Casnewydd wedi chwarae rôl hollbwysig yn y gwaith o geisio datblygu “stori” y ddinas a arweiniodd at y cysyniad Dinas Ddemocratiaeth.
Sefydlwyd yn 2014 fel grŵp cynghori anffurfiol ar dwf economaidd a bwrdd seinio ar gyfer partneriaid ledled y ddinas, mae adroddiad i’r cabinet yn edrych ar ei gamau nesaf.
Mae’n cael ei gynnig i ffurfioli Rhwydwaith Economaidd Casnewydd gyda chadeirydd annibynnol.
Dros y blynyddoedd i ddod, bydd yr angen i Gasnewydd fod â llais pwerus hyd yn oed yn fwy hanfodol wrth i nifer o ddatblygiadau pwysig ddwyn ffrwyth gan gynnwys y buddsoddiad cynhwysfawr y mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’i addo; Partneriaeth Dinasoedd Mawr y Gorllewin, sy’n ceisio gwneud y mwyaf o fuddsoddiad ledled Casnewydd, Caerdydd a Bryste a’r heriau a grëir gan Brexit.