Y Cyngor i wneud cais am arian ar gyfer rhaglen gwella ysgol uchelgeisiol
Wedi ei bostio ar Monday 17th July 2017
Yn ei gyfarfod ar 19 Gorffennaf, bydd Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn ystyried cynnig am gyllid i wneud gwelliannau gwerth £70 miliwn i ysgolion yn y ddinas.
Nod rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yw lleihau nifer yr ysgolion a’r colegau sydd mewn cyflwr gwael a sicrhau bod gan Gymru ysgolion o’r maint iawn a cholegau yn y lleoliadau iawn.
Yn rhan o'r rhaglen, mae modd i awdurdodau lleol wneud cais am gyllid i gynnal y gwaith hwnnw yn eu hardaloedd.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig cyflwyno rhaglen o welliannau gwerth £70 miliwn, ac mae’n gofyn i Lywodraeth Cymru ariannu 50 y cant.
Mae’r ysgolion sydd wedi’u cynnwys yn y cynnig wedi cael eu dewis yn unol ag amcanion y Cyngor a blaenoriaethau strategol y Rhaglen. Mae ysgolion wedi cael blaenoriaeth ar sail eu cyflwr, nifer y lleoedd ysgol sydd ar gael yn yr ardal, a ffyrdd o ddefnyddio asedau presennol orau.
Ysgolion uwchradd
Cynigir gwelliannau i’r ysgolion canlynol, gan gynnwys gwaith i newid adeiladau dros dro a gwaith ailfodelu er mwyn sicrhau bod digon o leoedd ysgol:
- Ysgol Basaleg
- Ysgol Uwchradd Caerllion
- Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Ysgolion cynradd
Cynigir gwelliannau ar y safle, gan gynnwys mewn mannau arlwyo a mannau allanol, er mwyn gwella cyfleusterau a chreu rhagor o leoedd ysgol, yn yr ysgolion canlynol:
- Ysgol Gynradd Maesglas
- Ysgol Gynradd Pillgwenlli
- Ysgol Gynradd Maendy
- Ysgol Gynradd Tŷ-du
- Ysgol Gynradd Gwynllyw Sant
- Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Malpas
Hefyd yn rhan o'r cynigion y mae cyllid i adeiladu ysgolion newydd yn y ddinas, a fydd wedi’u hariannu’n rhannol gan ddatblygwyr:
- Ysgolion Cynradd Glan Llyn a Llanwern
- Ysgol newydd sydd wedi’i chynnig ar safle datblygu Whiteheads
Mae hon yn rhaglen amlinellol strategol, felly efallai y bydd yr elfennau penodol yn cael eu newid gan ddibynnu ar y swm y cytunir ei fuddsoddi, a bydd rhywfaint o hyblygrwydd.