Newyddion

Ysgol Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig Newydd – y gyntaf yn y ddinas

Wedi ei bostio ar Tuesday 24th January 2017

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo datblygu ysgol arbennig newydd ar gyfer disgyblion gydag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA).

Bydd yr adnodd arbenigol hwn, a leolir ar safle flaenorol Ysgol Fabanod Gaer, yn rhoi darpariaeth arbenigol ac addysgu wedi’i strwythuro i ddisgyblion rhwng 3 a 19 oed.

Bydd yr ysgol, sydd y gyntaf o’i bath, yn bwriadu rhoi addysg a chymorth o’r radd flaenaf i ddisgyblion waeth beth yw lefel yr addysg y maen nhw ei angen. Bydd gan ddisgyblion gyfleoedd hefyd i weithio a dysgu yn y gymuned er mwyn paratoi ar gyfer eu rôl yn y dyfodol fel aelodau gwerthfawr o'r gymdeithas.

Yn bennaf, bydd yr ysgol yn bodloni anghenion y disgyblion sy'n byw yng Nghasnewydd, gan eu galluogi i gael eu haddysgu'n agos i’w cartrefi. Bydd hyn yn lleihau niferoedd y lleoliadau allan o’r ddinas a’r teithiau hir o dro i dro y mae disgyblion yn eu hwynebu.  

Crëir yr ysgol trwy addasu ac ail-fodelu adeilad blaenorol Ysgol Fabanod Gaer a ddaeth yn wag ar ôl gwaith i atgyfnerthu’r ysgol ar safle blaenorol Ysgol Iau Gaer.

Yn gyffredinol mae angen mwy o le ar ddisgyblion gydag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig er mwyn symud o gwmpas gydag elfennau acwstig ffafriol i atal gormod o straen ar y synhwyrau. Mae dyluniad a threfn yr ysgol newydd yn blaenoriaethu’r angen hwn.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg a Phobl Ifanc Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: “Bydd yr ysgol hon yn gyfleuster newydd gwych ar gyfer y ddinas ac ar gyfer pobl ifanc y mae angen y cymorth arbenigol hwn arnynt.

“Byddwn bellach yn gallu rhoi’r cyfle i ddisgyblion a’u teuluoedd i gael yr addysg orau posibl yn agos i’w cartrefi.”

Mae’r project wedi’i ariannu gan Gyngor Dinas Casnewydd a rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Y bwriad yw sefydlu’r ysgol newydd fis Ebrill er mwyn ei hagor fis Medi 2017.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.