Cyhoeddi adolygiad dynladdiad domestig
Wedi ei bostio ar Wednesday 20th December 2017
Mae Casnewydd yn Un, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y ddinas, wedi cyhoeddi adolygiad dynladdiad domestig (ADD) yn dilyn marwolaeth menyw yn 2013.
Llofruddiwyd Karen (nid ei henw go iawn) gan y gŵr yr ymddieithriodd rhagddo, a adnabuwyd fel Oedolyn B yn yr adolygiad, a wnaeth yna geisio ei ladd ei hun.
Cafodd ei farnu yn euog o lofruddio a derbyniodd ddedfryd oes. Bydd yn y carchar am o leiaf 26 mlynedd cyn y bydd yn gymwys i'w ystyried ar gyfer parôl.
Yn dilyn yr achos llys, penderfynodd BGC Casnewydd Yn Un y dylid cynnal adolygiad dynladdiad domestig (ADD).
Comisiynwyd Tony Blockley i gynnal yr ADD ac mae bellach wedi ei gyhoeddi ar ôl i'r Swyddfa Gartref gytuno arno.
Dywedodd adroddiad Mr Blockley nad oedd modd rhagweld nac atal marwolaeth Karen.
Ychydig o gyswllt ag asiantaethau a gafwyd cyn y llofruddiaeth ond roedd hi'n ymddangos bod cam-drin wedi bod yn y briodas am flynyddoedd lawer.
Yn dilyn marwolaeth Karen, ymchwiliodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (CCAH) i'r amgylchiadau a'r hyn a wnaeth swyddogion yr heddlu o ran nifer o achosion.
Daeth i'r casgliad fod camymddwyn a phroblemau perfformiad ymhlith swyddogion unigol a nifer o ddiffygion sefydliadol yr oedd angen i Heddlu Gwent fynd i'r afael â nhw.
Dywedodd Mr Blockley gan fod Heddlu Gwent wedi gweithredu'r argymhellion yn yr adroddiad CCAG, nad oedd unrhyw faterion yn aros i'w datrys yn yr adolygiad.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Matthew Williams, Arweinydd Diogelwch a Chydlyniant Casnewydd yn Un: "Hoffem fynegi ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Karen a ddioddefodd golled mor drasig ac ofnadwy.
"Hoffem ddiolch i Tony Blockley am ei adolygiad trylwyr. Mae ADDau yn allweddol wrth amlygu lle gall cyrff cyhoeddus wella eu hymatebion i geisio atal achosion tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.
"Mae'n dda gan Casnewydd Yn Un ddweud, fel yr amlygwyd yn yr adroddiad, fod Heddlu Gwent eisoes wedi gweithredu i fynd i'r afael â diffygion a nodwyd gan y CCAG."
Mae ADDau yn ofyniad cyfreithiol, ac yng Nghasnewydd yn gyfrifoldeb ar bartneriaeth Casnewydd yn Un. Mae ADD yn ystyried yr amgylchiadau a arweiniodd ar farwolaeth person 16+ oed yn sgil trais, cam-drin neu esgeulustod gan berthynas, partner neu gyn-bartner neu aelod o'r un aelwyd. Mae'n galluogi cyrff cyhoeddus a sefydliadau cymunedol a gwirfoddol perthnasol i nodi lle gallai ymatebion i'r sefyllfa fod wedi'u gwella.
Mae copi o'r adolygiad i'w weld yn https://onenewportlsb.newport.gov.uk/oneNewport/Safer-Newport/Domestic-Homicide-Review.aspx