Newyddion

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Annog MMR cyn mynd yn ôl i'r ysgol ar ôl achosion newydd o'r frech goch

Wedi ei bostio ar Monday 14th August 2017
Public-Health-Wales-Logo

Mae rhieni'n cael eu hannog i sicrhau bod eu plant wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR ar ôl clywed am dri achos newydd o'r frech goch yn yr achos sy'n effeithio ar Gasnewydd a Thorfaen.

Mae'r achosion ychwanegol yn golygu mai'r cyfanswm yn yr achos parhaus yw 16.

Mae gan yr achos gysylltiadau uniongyrchol ag achos mawr yn Ewrop sydd wedi heintio 14,000 o bobl ac achosi 35 o farwolaethau ers dechrau'r flwyddyn.

Gyda’r tymor ysgol newydd yn dechrau ymhen ychydig o wythnosau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni ledled Cymru i sicrhau bod eu plant wedi cael y ddau ddos o'r brechlyn MMR cyn dychwelyd i'r dosbarth.

Dywedodd Dr Rhianwen Stiff, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Yn ein hachos presennol, rydym wedi gweld y frech goch yn trosglwyddo rhwng disgyblion yn yr un ysgol. Gyda phlant yn dychwelyd o'u gwyliau yn Ewrop, a chyda'n achos parhaus yng Nghasnewydd a Thorfaen, rydym yn pryderu y gallai dechrau'r tymor newydd arwain at achosion pellach o'r frech goch yng Nghymru.

“Mae'r frech goch yn heintus iawn ac yn trosglwyddo'n hawdd rhwng pobl heb eu brechu.

“Mae'r neges yn syml – mae MMR yn cynnig y diogelwch gorau a'r unig ddiogelwch yn erbyn y frech goch.  Os nad ydych chi, neu eich plentyn, wedi cael y ddau ddos o'r brechlyn MMR, siaradwch â'ch meddygfa ar unwaith.”

Dylai plant â symptomau'r frech goch - sy'n cynnwys tymheredd uchel, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch (llid pilen y llygad), a brech goch nodweddiadol - gael eu cadw gartref o'r ysgol, meithrinfeydd a digwyddiadau cymdeithasol fel clybiau gwyliau a phartïon pen-blwydd.  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn annog rhieni i beidio â mynd â phlant yr ymddengys fod ganddynt symptomau'r frech goch i'r feddygfa, yr adran damweiniau ac achosion brys na'r ysbyty lle gallent beryglu pobl eraill heb ffonio ymlaen llaw yn gyntaf.

Ymhlith yr achosion newydd mae pob pobl sydd wedi bod i leoliadau gofal iechyd pan oeddent yn sâl â'r frech goch, gan arwain at gleifion eraill y gallent fod wedi dod i gysylltiad â hwy yn cael llythyrau'n rhybuddio am y risg o'r frech goch.

Dylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn y frech goch gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 am asesiad. 

Mae rhaglen dreigl o sesiynau brechu wedi'i chwblhau eisoes mewn ysgolion ar draws Casnewydd mewn ymateb i'r achos, gyda 1089 o blant yn cael eu himiwneiddio.

Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd o atal achosion mawr yw drwy frechu.  Dylai rhieni nad yw eu plant wedi cael y ddau ddos diweddaraf o MMR sicrhau eu bod yn cysylltu â'u practis meddyg teulu ar unwaith er mwyn trefnu'r brechlyn cyflym, diogel ac effeithiol hwn.

Yn ogystal, anogir oedolion a anwyd ers 1970, nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR, i sicrhau eu bod yn cysylltu â'u meddygfa ynghylch brechu, yn enwedig os ydynt yn gweithio gyda phlant.

Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pan maent rhwng 12 a 13 mis oed a'r ail pan fyddant yn dair oed a phedwar mis, ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar ddosau a gollwyd.

Gall tua 1 o bob 5 o blant â'r frech goch brofi cymhlethdodau difrifol fel heintiau yn y glust, niwmonia neu lid yr ymennydd. Mae un o bob 10 o blant â'r frech goch yn gorfod mynd i'r ysbyty ac mewn achosion prin gall fod yn angheuol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y frech goch, gan gynnwys dolen i dystiolaeth fideo gan fam y gwnaeth ei merch tair oed heb ei brechu gael y frech goch yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44195

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.