Y Ddinas yn croesawu Ras Gyfnewid Baton y Frenhines
Wedi ei bostio ar Thursday 10th August 2017
Mae Casnewydd yn paratoi i chwarae ei rhan yn Ras Gyfnewid Baton y Frenhines cyn Gemau’r Gymanwlad Arfordir Aur Awstralia 2018.
Yn rhan o’r dathliadau byd eang yn arwain at y Gemau, bydd y Baton yn ymweld â chyfanswm o 71 o genhedloedd a thiriogaethau dros gyfnod o 388 o ddiwrnodau.
A chaiff ei groesawu i Gasnewydd fore dydd Mercher, 6 Medi.
Mae tîm o ddalwyr baton wedi’u dewis i gario’r Baton ar lwybr arbennig drwy’r ddinas gan gynnwys dros y Bont Gludo, Sgwâr John Frost a Chanolfan Casnewydd.
Y nod yw rhoi cymaint o gyfle â phosibl i bobl gael gweld y Baton yn rhan o’r dathliadau.
Caiff y digwyddiad ei gynnal gan Gyngor Dinas Casnewydd mewn partneriaeth â Chasnewydd Fyw ac Ardal Gwella Busnes Casnewydd.
Bydd Heddlu Gwent yn cau’r ffyrdd yn rhan o daith y Baton drwy Gasnewydd ar ôl iddo adael Parc y Coroni tua 8am.
Oddi yno, eir â’r Baton i’r Bont Gludo lle y bydd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Debbie Wilcox ac aelodau’r Cabinet yn disgwyl amdano.
Yna, bydd y Baton yn parhau ar ei daith yn y car i Ysgol Gynradd Pillgwenlli ar gyfer gwasanaeth preifat arbennig â thema Gemau’r Gymanwlad.
O’r ysgol, budd dalwyr y Baton yn cychwyn yng Nghapel Crescent ac yn parhau ar hyd Stryd Masnachol (bydd y stryd hon ar gau rhwng 8am a 10am) yna ar Corn Street.
Yna, bydd yn mynd ar hyd Upper Dock Street, i Ganolfan Siopa Friars Walk ac yna i Sgwâr John Frost lle y bydd y Baton ar gael i’r cyhoedd ei weld am hyd at 45 munud.
Bydd taith y Baton yn gorffen yng Nghanolfan Casnewydd lle y cynhelir Gemau’r Gymanwlad ar raddfa fach gyda disgyblion o bum ysgol gynradd ar draws y ddinas yn cymryd rhan.
Yna, bydd y Baton yn gadael Casnewydd ar gyfer cam nesaf o’i daith i Sir Fynwy, Llantrisant a Phontypridd yr un diwrnod.
www.newport.gov.uk/batonrelay