Cyllid ar gyfer mentrau cymdeithasol

Mae menter gymdeithasol yn fusnes sydd ag amcanion cymdeithasol ac mae ei gwargedau yn cael eu hailfuddsoddi at ddiben yr amcanion cymdeithasol hynny. 

Gall mentrau cymdeithasol gael gafael ar y rhan fwyaf o fathau o gyllid, ynghyd â chynlluniau cymorth ariannol ar gyfer mentrau cymdeithasol yn benodol. 

  • Cyngor Dinas Casnewydd - mae cymorth grant ar raddfa fach ar gael; anfonwch e-bost at [email protected]
  • Mae cronfa fenthyciadau ar gael gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddatblygu mentrau cymdeithasol
  • Gall mentrau cymdeithasol fod yn gymwys i gael grantiau o hyd at £5000 gan y Gronfa Loteri Fawr i helpu gyda chostau buddsoddiadau, hyfforddiant neu gynnal digwyddiadau

Hefyd, gall cyllido torfol fod yn ffordd dda o godi arian ar gyfer mentrau cymdeithasol ac mae rhai gwefannau cyllido torfol yn arbenigo ar godi arian ar gyfer mentrau cymdeithasol a phrosiectau cymunedol.  

Ewch i Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth am gymorth ar gyfer mentrau cymdeithasol