Marchnad Casnewydd

Newport Market_12

Mae cynllun adfywio Marchnad Casnewydd gwerth miliynau o bunnoedd wedi'i gwblhau ac fe'i hailagorodd i'r cyhoedd eto ar 19 Mawrth 2022.

Bellach yn ardal olau a chynaliadwy i fwyta, yfed, siopa a gweithio, mae’r Farchnad yn cynnig amrywiaeth adfywiol o fasnachwyr, mannau digwyddiadau a bwytai.

Wedi’i lleoli y tu allan i’r orsaf fysiau, neu 5 munud ar droed o’r orsaf drenau, mae Marchnad Casnewydd yn ganolbwynt gweithredol i ffrindiau, cydweithwyr a theulu.

Gydag amrywiaeth o fwytai yn cynnig gwahanol fathau o ddewisiadau bwyd, mae’r Farchnad yn fwrlwm o weithgarwch o ddydd Mercher i ddydd Sul, gyda busnesau bach ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

Mae bwytai yn cynnwys:

  • Academy
  • The Cheesecake Guy
  • Banh Wagon
  • Flour and Ash
  • Meat and Greek
  • Tasty Peninsula
  • Dirty Gnocchi
  • Supa Thai Vegan
  • The Greedy Bear
  • Burger Boys
  • Seven Lucky Gods

Yn ogystal â rhoi dyfodol mwy disglair a chynaliadwy i’r farchnad, bydd y cynllun yn ategu’r hyn sydd ar gael yn ardal y Stryd Fawr, yn ogystal â chanol y ddinas ehangach, ac yn gatalydd ar gyfer adfywio pellach.

Mae gan LoftCo, y cwmni y tu ôl i’r prosiect adfywio ar gyfer yr adeilad rhestredig, hanes profedig gan gynnwys datblygiadau mawr yn Tramshed Caerdydd, Tŷ Pwmpio’r Barri ac Adeilad Jennings ym Mhorthcawl.

Mae cynigion LoftCo wedi’u derbyn gan y cyngor a fydd hefyd yn cyfrannu benthyciad ad-daladwy tymor byr, trwy gyllid Llywodraeth Cymru, tuag at gost y cynllun.

Cyfarwyddiadau a pharcio

25 High Street, Newport NP20 1DD

Mae'r farchnad bum munud ar droed o'r orsaf reilffordd a bysiau.

Costau parcio o £2 am dair awr ym meysydd parcio'r cyngor

E-bostiwch [email protected] am ragor o wybodaeth.