Newyddion

Defnyddio technoleg i wella bywydau pobl

Wedi ei bostio ar Tuesday 29th August 2023

Mae'r cyngor wedi cyhoeddi ei strategaeth ddigidol newydd sy'n diffinio'r dyheadau digidol ar gyfer y ddinas dros y pum mlynedd nesaf.

Yn seiliedig ar bedair thema allweddol - trawsnewid digidol, sgiliau digidol a chynhwysiant, data a chydweithio a seilwaith digidol a chysylltedd – bydd yn cefnogi ac yn gwella lles preswylwyr a gweithwyr, yn ogystal â galluogi busnesau i ffynnu yn y ddinas.

Mae'r strategaeth yn nodi sut bydd y cyngor yn defnyddio technoleg i drawsnewid darpariaeth ei wasanaethau. Mae hyn yn cynrychioli gweledigaeth ddigidol uchelgeisiol sy'n croesawu arloesedd a ddarperir mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir a phartneriaid allweddol eraill.

Mae'r strategaeth yn cael ei harwain gan egwyddorion pwysig - arloesedd, wedi ei gyrru gan ddata, yn canolbwyntio ar y defnyddiwr, yn gynhwysol, yn gydweithredol, yn ddiogel ac yn wyrdd.

Mae hefyd yn cydnabod yr angen am wyliadwriaeth barhaus i ddiogelu data'r cyngor rhag ymosodiadau seiber a bygythiadau eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni, yr aelod cabinet dros drawsnewid sefydliadol: “Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi gweld rhai o'r newidiadau mwyaf mewn cymdeithas o ran y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau cyhoeddus drwy dechnoleg ddigidol.

Mae hefyd wedi amlygu anghydraddoldebau yn ein cymunedau o ran mynediad i dechnoleg ddigidol a'r sgiliau angenrheidiol i'w defnyddio'n effeithiol.

Nod y strategaeth ddigidol newydd yw mynd i'r afael â'r materion hyn a chefnogi'r gwaith o gyflawni ein hamcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol."

Mae elfennau o'r strategaeth eisoes wedi'u datblygu, gan gynnwys gweithredu prosiect y Gronfa Band Eang Lleol i drawsnewid cysylltedd a systemau mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor a gwelliannau i wefan y cyngor.

Agorwyd hyb newydd hefyd yng nghanol y ddinas sy’n arddangos y diweddaraf mewn technoleg gynorthwyol, ym Marchnad Casnewydd. 

Mae'r hyb yn lle y bydd pobl yn gallu siarad ag aelodau o dîm therapi galwedigaethol y cyngor a chael cyngor am ddefnyddio'r dechnoleg gynorthwyol ddiweddaraf - gan eu helpu i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel gartref.

Bydd cynnydd pellach ar y camau a nodir yn y strategaeth yn cael eu hadrodd mewn adroddiad digidol blynyddol.

Mae mwy o wybodaeth am y strategaeth ddigidol ar gael yn www.newport.gov.uk/strategaethddigidol

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.