Newyddion

Diwrnod pwysig i fyfyrwyr y ddinas

Wedi ei bostio ar Thursday 17th August 2023

Heddiw, bydd pobl ifanc ledled y ddinas yn derbyn eu canlyniadau Safon Uwch a chymwysterau eraill. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi llwyddo yn eu harholiadau a diolch i'r holl staff ymroddedig sy'n arwain ac yn cefnogi ein pobl ifanc drwy gydol eu gyrfaoedd ysgol." 

Mae'r Cynghorydd Deb Davies, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros addysg, hefyd am longyfarch y myfyrwyr. 

"Rwy'n gwybod y byddant wedi gweithio’n galed, gyda chefnogaeth teuluoedd a'u hysgolion neu sefydliadau addysgol, ac maen nhw’n haeddu mwynhau'r foment hon. 

"Efallai nad yw rhai wedi cael y graddau na'r cymwysterau yr oeddent yn gobeithio amdanynt, ond mae angen eu sicrhau bod cefnogaeth ar gael wrth iddynt ystyried eu camau nesaf. 

"Hoffwn estyn fy nymuniadau gorau i bawb, beth bynnag maen nhw'n ei wneud nesaf, ac yn y blynyddoedd i ddod, wrth iddyn nhw ddechrau ar benodau nesaf eu bywydau."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.