Rhoi gwybod am drosedd casineb

Mae digwyddiad neu drosedd casineb yn cael ei gyflawni oherwydd pwy ydych chi neu bwy mae rhywun yn meddwl yr ydych chi.

Os bydd rhywun yn eich targedu chi, yn cyflawni trosedd yn eich erbyn, yn eich bwlio neu'n aflonyddu arnoch oherwydd eich oedran, anabledd, rhywioldeb, crefydd, ethnigrwydd, rhywedd (gan gynnwys hunaniaeth rywedd) neu ffordd o fyw, yna mae hyn yn ddigwyddiad neu'n drosedd casineb.

Ffoniwch 999 a gofyn am yr heddlu os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, neu 101 os nad yw'n argyfwng.

Gallai hyn gynnwys cam-drin geiriol, graffiti sarhaus, ymddygiad ymosodol, difrod i eiddo, ymosodiad, bwlio ar y we, negeseuon testun, galwadau ffôn neu negeseuon e-bost sarhaus, neu gymryd arian oddi wrthoch.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad neu drosedd casineb

Nid yw'r heddlu yn cael gwybod am bob digwyddiad a throsedd casineb, ac mae angen eu deall fel y gellir gwneud y penderfyniadau cywir i'ch atal chi neu aelod o'ch teulu a'ch ffrindiau rhag dioddef nesaf.

Os nad ydych yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau, nid oes modd eu hatal.

Mae rhoi gwybod am y materion hyn yn helpu i fapio maint y broblem a gwneud yn siwr bod y camau cywir yn cael eu cymryd i wneud eich cymuned yn fwy diogel ac yn lle gwell i fyw, a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael fel nad yw dioddefwyr yn teimlo'n unig, yn isel ac yn ofnus. 

Cysylltu

Ffoniwch 999 a gofyn am yr heddlu os ydych mewn perygl uniongyrchol, neu 101 os nad yw'n argyfwng.

Ffoniwch 0300 30 31 982 ar unrhyw adeg i gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr. Caiff galwadau eu trin yn gyfrinachol a gallwch ddewis peidio â rhoi eich enw.

Rhoi gwybod ar-lein yn Gov.UK am drosedd casineb 

Cymorth

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynyddu nifer y digwyddiadau a'r troseddau casineb sy'n cael eu hadrodd ar draws Cymru ac er mwyn rhoi cymorth i ddioddefwyr. 

Gall y cymorth fod yn eiriolaeth neu'n gymorth emosiynol neu ymarferol, a gellir helpu rhywun i roi gwybod i'r heddlu am drosedd a'i helpu i fynd i'r llys. 

Hyd yn oed os nad oes angen cymorth arnoch chi'n bersonol, mae rhoi gwybod am ddigwyddiadau pan fyddant yn digwydd yn bwysig o hyd.