AskSARA

AskSARA Screenshot WELSH

Gall AskSARA eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth am gynnyrch i wneud gweithgareddau bob dydd yn eich cartref yn haws.

Teclyn asesu ar-lein yw AskSARA, sydd am ddim ac yn hawdd ei ddefnyddio.

Dewiswch destun yr hoffech gael help gydag e, atebwch ambell gwestiwn syml am eich hun a’ch amgylchedd ac, ar sail eich atebion, bydd AskSARA yn awgrymu:

  • syniadau a chyngor am ffordd i wneud eich bywyd yn haws;
  • manylion cynnyrch a allai helpu a lle i ddod o hyd iddynt;
  • manylion cyswllt am ragor o gyngor a chymorth os oes angen.

Mae hyn yn ddewis arall yn lle cysylltu â ni am asesiad angen yn uniongyrchol. 

Rhowch dro ar hunanasesu trwy AskSARA

Bydd angen Edge, Chrome, Firefox neu unrhyw borwr modern arall arnoch i ddefnyddio’r ddolen uchod.

Gallwch gysylltu â ni am asesiad o anghenion gofal cymdeithasol ar unrhyw adeg.

Elusen genedlaethol Cronfa Byw Anabl sy’n rhedeg AskSARA ac mae wedi ei drwyddedu i’w ddefnyddio gan Gyngor Dinas Casnewydd.