Cwmwl Cymuned Casnewydd

Newport Community Cloud_logo

Mae wi-fi am ddim ar gael ym mhob llyfrgell yng Nghasnewydd, ynghyd â chanolfannau dysgu a chanolfannau cymunedol a llawer o leoliadau eraill – chwiliwch am y logo!

Mae’r symbol Wi-fi Gyfeillgar yn helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i ddod o hyd i leoliadau lle mae’r wi-fi wedi’i addasu i geisio blocio deunyddiau anaddas, cynllun achrededig gyda Chyngor y DU dros Ddiogelwch Ar-lein i Blant.

Lawrlwythwch taflen Cwmwl Cymunedol Casnewydd (pdf)

Defnyddio Cwmwl Cymunedol Casnewydd

  • ar eich ffôn neu lechen, sicrhewch bod y wi-fi wedi’i droi ymlaen
  • sgroliwch drwy’r opsiynau nes i chi ddod o hyd i Gwmwl Cymunedol Casnewydd a chliciwch i fynd i’r parth.
  • mewngofnodwch drwy Facebook, Twitter, Google Mail neu lenwch y ffurflen – dim ond unwaith bydd yn rhaid i chi wneud hyn yn mhob lleoliad cyn belled â’ch bod chi’n defnyddio’r un ddyfais.
  • byddwch yn gweld ail dudalen parth sy’n golygu eich bod yn defnyddio Wi-Fi am ddim Cwmwl Cymunedol Casnewydd a gallwch ddechrau defnyddio’r rhyngrwyd