Cliriwch eich pen a gwella eich ffitrwydd ar daith gerdded yng Nghasnewydd!
Teithiau cerdded bywyd gwyllt - darganfod planhigion ac anifeiliaid lleol
Taith Gerdded Dyffryn Wysg
Mae Taith Gerdded Dyffryn Wysg yn dilyn dyffryn yr afon am 50 milltir (80 cilometr) rhwng y Ship Inn yng Nghaerllion ac Aberhonddu.
Mae arwyddion ar y llwybr â saethau melyn a chaiff y llwybr ei gynnal a’i gadw gan Gyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir Fynwy ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Llwybr Arfordir Cymru
Llwybr Arfordir Cymru yw’r cyntaf yn y byd i gwmpasu arfordir gwlad gyfan a chafodd ei agor ar 5 Mai 2012.
Lawrlwythwch canllaw i'r llwybr (Saesneg) (pdf).
An accompanying map ar raddfa fwy(pdf) is also available.
Berchnogion cŵn! Sylwer ar y gorchymyn rheoli cŵn sy’n dweud bod rhai cadw cŵn ar dennyn ar lwybr yr arfordir.
Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i gael gwybodaeth am y llwybr cyfan gan gynnwys mapiau y gellir eu lawrlwytho.
Taith Gerdded Casnewydd o’r Ddinas i’r Môr
Agorodd Taith Gerdded Casnewydd o’r Ddinas i’r Môr ym mis Mai 2012 fel rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
Mae’r daith gerdded 8 cilomedr yn cynnwys llethrau, camfeydd, grisiau a thir anwastad.
Mae parcio ar gael ar hyd Stephenson Street neu ym maes parcio Glwyptiroedd Casnewydd.
Taith Gerdded Gylchol y Bont Haearn
Lawrlwythwch ac argraffwch taflen taith gerdded y Bont Haearn (pdf) i gael taith gerdded hunandywysedig yn lleoliad trawiadol Draethan, Castell Rhiwperra a Machen.
Llwybrau beicio
Mae llawer o lwybrau beicio Casnewydd yn wych i gerddwyr hefyd ac yn mynd trwy ardaloedd gwledig a threfol.
Teithiau cefn gwlad
Cafodd y llwybrau hyn sydd wedi’u marcio ag arwyddion eu datblygu gan staff y cyngor ac maent yn cynnwys rhai camfeydd, llethrau ar i fyny ac ar i lawr mwy serth a thir anwastad.
Argymhellir esgidiau cadarn neu esgidiau cerdded bryniau a hefyd potel o ddŵr a ffôn symudol.
Lawrlwythwch y ffolder teithiau cerdded cefn gwlad (pdf) a’r mewnosodiadau teithiau cerdded (pdf).
Lawrlwythwch daflenni yn y gyfres Let’s Walk Newport:
Teithiau Cerdded Bach i Draed Bach (pdf)
Teithiau Cerdded Dechreuol (pdf)
Teithiau Cerdded Heriau Iachus (pdf)
Cerddwr De Gwent
Mae’r grŵp cerdded lleol hwn yn trefnu teithiau cerdded tywysedig ar gyfer pob math o gerddwr – o’r rhai sy’n hoffi crwydro’n hamddenol i bobl sydd am dreulio diwrnod yn y mynyddoedd.
Cynhelir teithiau cerdded bob dydd Sul drwy gydol y flwyddyn ac yng nghanol yr wythnos gyda’r nos yn ystod misoedd yr haf.
Ewch i wefan Cerddwyr De Gwent .