Defnyddir Asesiadau o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (FEIAs) i ystyried effaith unrhyw newid i gyflogaeth neu wasanaethau’r cyngor o safbwynt pawb er mwyn sicrhau bod y newidiadau’n deg ac nid ydynt yn gwahaniaethu.
Mae Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIAs) yn ofynnol yn ôl y gyfraith o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae asesiadau Casnewydd yn archwilio tegwch a’r iaith Gymraeg hefyd.
Er enghraifft, byddai unrhyw wasanaeth newydd yn cael ei archwilio i gymharu profiadau pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl i weld pa mor dda yw mynediad.
Bydd yr asesiad yn ymdrin ag oedran, anabledd, rhywedd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, yr iaith Gymraeg a chyfeiriadedd rhywiol.
2020-2021
View completed budget proposal FEIA assessments
2019-2020
Asesiadau o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a Gwblhawyd 2019-2020
2018-2019
Asesiadau o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a Gwblhawyd 2018-2019
2017-2018
Asesiadau o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a Gwblhawyd 2017-2018
2016-2017
Asesiadau o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a Gwblhawyd 2016-2017
2015 - 2016
Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb a Gwblhawyd 2015-2016
2013 – 2014
Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb a Gwblhawyd 2013-14
2012 – 2013
Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb a Gwblhawyd 2012-13
Gweithdrefn
Mae’r EIA yn dilyn y camau hyn:
- amlygu polisi, arfer neu benderfyniad
- ymgynghori â’r bobl y mae’n effeithio arnynt
- casglu a dadansoddi gwybodaeth
- cwblhau’r asesiad
- defnyddio’r asesiad i lywio penderfyniadau’r cyngor
- cyhoeddi’r asesiad a chanlyniad y penderfyniad
Cysylltu
Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y swyddog polisi corfforaethol ac amrywiaeth.