Terfysg Siartwyr Casnewydd

Terfysg Siartwyr Casnewydd, Tachwedd 1839

Roedd mudiad y Siartwyr yn fudiad torfol o bobl gyffredin (dynion a menywod) o bob rhan o Brydain, a ddechreuodd ddiwedd y 1830au ac a barhaodd tan y 1850au.

Roedd yn canolbwyntio ar 'chwe phwynt' 'Siarter y Bobl' a'i nod oedd cyflwyno'r bleidlais i ddynion (ar adeg pan oedd gan ryw un o bob pump o ddynion yn unig yr hawl i bleidleisio - dynion o'r dosbarthiadau canol ac uwch, i bob diben) a system wleidyddol fwy cyfartal, cyfranogol a democrataidd, gyda syniad ehangach o ddinasyddiaeth yn sail iddo. Dyma oedd y chwe phwynt:

  1. Y bleidlais i bob dyn 21 oed a hŷn (ystyriwyd o ddifrif ymgyrchu o blaid y bleidlais i fenywod, ond penderfynwyd bod hyn yn annoeth yn dactegol, gan nad oedd yr holl Siartwyr mor gwbl oleuedig ag y byddem wedi dymuno iddynt fod)
  1. Ardaloedd etholaethol cyfartal (i helpu i gydraddoli gwerth y bleidlais ar draws etholaethau)
  1. Cyflog i aelodau seneddol (fel y gallai gweithwyr sefyll)
  1. Dim cymhwyster eiddo i aelodau seneddol
  1. Pleidlais ddirgel (ar y pryd, roedd pleidleisio'n weithred gyhoeddus ac argraffwyd llyfrau pleidleisio a oedd yn cofnodi pleidlais pobl)
  1. Seneddau blynyddol (ar y pryd, roedd angen cynnal etholiad cyffredinol unwaith bob 7 mlynedd yn unig; ystyriwyd bod hyn yn pellhau aelodau seneddol oddi wrth y bobl, yn ddi-fudd)

Prif ddull y Siartwyr o geisio cyflawni eu nodau oedd y ddeiseb dorfol a gyflwynwyd i'r Senedd. Fel arfer, mae ysgolheigion wedi gwahaniaethu rhwng Siartiaeth grym 'moesol' a Siartiaeth grym 'corfforol': roedd y cyntaf yn ymwneud â deisebu, cyfarfodydd torfol a cheisio cael eu hethol i'r Senedd, tra bod yr ail yn awgrymu parodrwydd i godi arfau yn erbyn y wladwriaeth. Gall y cyferbyniad rhwng y ddau ddull hyn gael ei orbwysleisio - roedd llawer o Siartwyr o'r farn y gallai fod angen bygwth grym i ategu'r pwysau moesol a oedd i'w gweld trwy ddeffro barn y cyhoedd, ond nid oedd hynny o reidrwydd yn golygu y byddent yn ystyried codi o ddifrif mewn gwrthryfel. Fe wnaeth rhai, fodd bynnag, yn enwedig yn Sir Fynwy a chymoedd dwyrain Morgannwg, ac yng Nghasnewydd ei hun.

Y 'Terfysg' yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd 1839 oedd y grym corfforol mwyaf difrifol a welwyd yn hanes mudiad Siartiaeth. Mae'n bwysig nodi bod y Siartwyr wedi'u harfogi ac yn barod i ddefnyddio grym: nid dioddef cyflafan yn oddefol a wnaethant. Roedd 'Brwydr Westgate' yn frwydr waedlyd ac nid byr, ond ei chanlyniad clir oedd trechu a drysu'r Siartwyr a bwrw amheuaeth ar y strategaeth grym corfforol. I ryw raddau, roedd yr achos dilynol yn erbyn arweinwyr y Terfysg, eu cael yn euog o uchel frad, a newid eu dedfryd i alltudiaeth i Awstralia, wedi achub yr 'achos' trwy amlygu urddas John Frost yn benodol ac ysgogi cydymdeimlad tuag at y rhai a oedd ar brawf. Yn ogystal, achosodd amwysedd yn y cofnod hanesyddol, wrth i'r amddiffyniad geisio gwadu bod y Terfysg wedi bod yn ymdrech wirioneddol i wrthryfela. Ar ôl y Terfysg, parhaodd mudiad y Siartwyr yng Nghasnewydd a'i gyffiniau, ond ni fu erioed mor gadarn na bygythiol eto.

Ni chyflawnwyd yr un o chwe phwynt y Siarter yn ystod cyfnod y mudiad, ond mae pump o'r chwech wedi dod i fodolaeth erbyn hyn (yr eithriad yw seneddau blynyddol) ac, wrth gwrs, cafwyd cydraddoldeb gwleidyddol llawn i fenywod fesul dau gam, ym 1918 ac ym 1928. Felly, roedd y Siartwyr o flaen eu hamser yn rhagweld system wleidyddol fwy democrataidd o lawer na'r un a fodolai ym Mhrydain y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Roedd llawer mwy i Siartiaeth na'r chwe phwynt. Maniffesto ydoedd, ymbarél a oedd yn cynnig lloches i wahanol ymgyrchoedd ac amcanion. Roedd gwella safonau byw gweithwyr yn flaenoriaeth i lawer o Siartwyr: byddai system wleidyddol fwy democrataidd a chynrychioliadol yn fodd o gyflawni nod o'r fath. Roedd rhai'n dychmygu system economaidd wahanol gyda gweithwyr yn rheoli diwydiant. Denwyd eraill gan weledigaeth iwtopaidd o gymdeithasau cymunedol. Roedd papurau newyddion y Siartwyr, eglwysi'r Siartwyr, ysgolion y Siartwyr a Siartwyr a oedd yr un mor frwd ynghylch ymgyrchu o blaid dirwest ag oeddent o ran ymgyrchu dros Siarter y Bobl. Roedd yn fudiad amrywiol a di-ffurf iawn a oedd yn cynnwys cymunedau ar hyd a lled Prydain.

Ni ddylid ystyried yn awtomatig fod gwrthwynebwyr Siartiaeth yn ddihirod a oedd yn meddwl am eu lles eu hunain yn unig. Yn aml, roedd ganddynt resymau da dros feddwl nad oedd yr amser yn iawn ar gyfer rhai o'r chwe phwynt, neu'r cyfan ohonynt. Yn sicr, roedd pobl a oedd yn amharod i ildio grym economaidd a gwleidyddol, ond roedd pobl eraill o'r farn bod caniatáu i bawb gael pleidlais mewn cyfnod o lythrennedd rhannol ac addysg wleidyddol brin yn gofyn am helynt. Roedd Maer Casnewydd adeg y Terfysg, Thomas Phillips, yn ymgyrchydd Rhyddfrydol o blaid diwygio, yn ddyngarwr, yn gyflogwr tadofalus, yn Anglicanwr selog ac yn wladgarwr Cymreig ac, mewn sawl ffordd, roedd yn ymgyrchwr craff o blaid dyfodol gwell.

Roedd llawer o Siartwyr Cymraeg eu hiaith yn rhan o Siartiaeth Casnewydd, a llawer ohonynt o bosibl wedi ystyried eu hunain yn Gymry gwladgarol. Er bod ymdrechion wedi'u gwneud yn achlysurol i orfodi Terfysg Casnewydd i fowld cenedlaetholgar, mae'n annhebygol iawn y byddai'r Siartwyr eu hunain wedi deall hyn; roedd Siartiaeth yn fudiad ledled Prydain a oedd yn canolbwyntio ar ddiwygio Senedd San Steffan ac nid oedd unrhyw elfen ymneilltuol iddo.

I'r unfed ganrif ar hugain, gallai gwerthoedd allweddol mudiad y Siartwyr gael eu mynegi fel hyn:

  • Democratiaeth - system wleidyddol sy'n adlewyrchu barn a buddiannau'r bobl
  • Cydraddoldeb - i bawb o ran hawliau gwleidyddol a chyfleoedd
  • Urddas - parch tuag at bob math o lafur
  • Cyfranogiad - y syniad bod gan bawb gyfle a dyletswydd i gyfrannu at drafod cymdeithas ar hyn o bryd a dyfodol cymdeithas
  • Cymuned - y gellir deall gwerthoedd cymdeithasol a moesol orau mewn cyd-destun cyfunol, cyffredin
  • Cydweithredu - y gellir cyflawni llawer mwy trwy gydweithio ar draws ffiniau yn hytrach na thrwy aros ar wahân
  • Gweledigaeth - dyfodol sy'n werth ei annog, sy'n cynnig gobaith i bawb

Chris Williams, Athro Hanes, Prifysgol Caerdydd.