News

Welsh Medium Secondary Education in Newport

Posted on Thursday 28th January 2016

The planning application to build Newport’s first Welsh medium secondary school will be considered at a meeting of Newport City Council’s Planning Committee on Wednesday 3 February.

 If planning permission is granted, the development of this Welsh-medium secondary education provision in Newport will deliver up to 900 school places in future years, and meet the growing demand that exists across the region for Welsh medium education.

 The council is legally required to provide secondary education in Welsh in Newport and Duffryn has been identified as the only viable development site within the area.

 Funding of the new school is via the 21st century schools programme as a joint enterprise through Welsh Government, Newport City Council and Monmouthshire County Council, providing secondary school places for both local authorities.

 As part of the planning consultation process for the new school, which includes substantial investment in and redevelopment of the existing Duffryn High School, an objection has been received from Natural Resources Wales (NRW) because of the general flooding risk in that part of Newport. In the light of a statutory objection, the Council’s Planning Officers have felt unable to support the application and are recommending refusal on technical planning policy grounds.

However the Planning Officer’s report and the statutory objection from NRW both recognise that the Council’s Planning Committee can have regard to the educational need for this school and the fact that there is no other viable location outside the flood risk area. Provided that the Planning Committee are satisfied that the flood risks are properly addressed and mitigated, then it is still open to them to approve the application.

 Work carried out in preparing the planning permission application has therefore included a flood emergency management plan for both schools to adopt when using this site to ensure the safety of pupils and staff at all times, even in the unlikely event of extreme flooding. This is common practice when a commensurate level of flood risk is identified.

 The council can confirm that the education case presented has always had a sound basis at the chosen location, and the site of Duffryn Way has been fully supported not only by its neighbouring councils, but by Welsh Government and other regional partners and agencies.

 The chair of governors of the Welsh Medium Secondary School and the head teacher are also fully backing the works planned at the Duffryn site, and have submitted detailed letters of support for the planning committee to consider.

 It must be emphasised that Newport City Council is fully committed to the delivery of Welsh-medium secondary education in the city, and the Council has always been confident it can deliver the new school on that site, as well as improving the facilities of the existing Duffryn High.

 However the final decision will rest with the Planning Committee, who will assess the relevant planning considerations on an objective and impartial basis.

 

Addysg Uwchradd Cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd

 Ystyrir y caniatâd cynllunio i adeiladu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg cyntaf Casnewydd mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Dinas Casnewydd ar Ddydd Mercher 3 Chwefror.

 Os rhoddir caniatâd cynllunio, bydd datblygiad y ddarpariaeth addysg uwchradd cyfrwng-Cymraeg yng Nghasnewydd yn darparu hyd at 900 o leoedd ysgol mewn blynyddoedd i ddod, a chwrdd â'r galw cynyddol sy'n bodoli ar draws y rhanbarth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.

 Mae'n rhaid i'r cyngor yn gyfreithiol ddarparu addysg uwchradd Cymraeg yng Nghasnewydd, a Dyffryn yw'r unig safle datblygu hyfyw o fewn yr ardal.

 Mae ariannu'r ysgol newydd yn dod trwy'r rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif fel menter ar y cyd drwy Lywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy, yn darparu lleoedd ysgolion uwchradd ar gyfer y ddau awdurdod lleol.

 Fel rhan o'r broses ymgynghori cynllunio ar gyfer yr ysgol newydd, sydd yn cynnwys buddsoddiad sylweddol ac ail-ddatblygiad o'r Ysgol Uwchradd Dyffryn presennol, derbyniwyd  gwrthwynebiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) oherwydd y perygl cyffredinol o lifogydd yn yr ardal honno o Gasnewydd. Yng ngoleuni gwrthwynebiad statudol, nid yw Swyddogion Cynllunio'r Cyngor wedi teimlo eu bod yn gallu cefnogi'r cais ac yn argymell gwrthod ar sail polisi cynllunio technegol.

 Fodd bynnag, mae adroddiad y Swyddog Cynllunio a'r gwrthwynebiad statudol gan CNC yn cydnabod y gall Pwyllgor Cynllunio'r Cyngor roi sylw i'r anghenion addysgol ar gyfer yr ysgol hon a'r ffaith nad oes lleoliad hyfyw arall y tu allan i'r ardal sydd mewn perygl o lifogydd. Os yw'r Pwyllgor Cynllunio yn fodlon fod y peryglon llifogydd wedi eu lliniaru ac wedi mynd i'r afael a hwy, yna y mae'n dal yn agored iddynt i gymeradwyo'r cais.

 Mae gwaith a wnaed wrth baratoi'r cais caniatâd cynllunio felly wedi cynnwys cynllun rheoli argyfwng llifogydd ar gyfer y ddwy ysgol i fabwysiadu wrth ddefnyddio'r safle hwn i sicrhau diogelwch disgyblion a staff ar bob adeg, hyd yn oed mewn achos annhebygol o lifogydd eithafol. Mae hyn yn arfer cyffredin pan mae lefel cymesur o lifogydd wedi cael ei nodi.

 Gall y cyngor gadarnhau bod yr achos addysg a gyflwynir bob amser gyda sylfaen gadarn yn y lleoliad a ddewiswyd, a safle Duffryn Way wedi cael ei chefnogi'n llawn, nid yn unig gan ei chynghorau cyfagos, ond gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid ac asiantaethau rhanbarthol eraill.

 Mae cadeirydd llywodraethwyr yr Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg a'r pennaeth hefyd yn cefnogi yn llawn y gwaith arfaethedig ar y safle yn Nyffryn, ac wedi cyflwyno llythyrau manwl o gefnogaeth i'r pwyllgor cynllunio i'w hystyried.

 Rhaid pwysleisio fod Cyngor Dinas Casnewydd yn gwbl ymroddedig i gyflwyno addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y ddinas, ac mae'r Cyngor bob amser wedi bod yn hyderus y gall gyflawni'r ysgol newydd ar y safle hwnnw, yn ogystal â gwella cyfleusterau'r Ysgol Uwchradd Dyffryn presennol.

 Fodd bynnag, bydd y penderfyniad terfynol yn gorffwys gyda'r Pwyllgor Cynllunio, a fydd yn asesu'r ystyriaethau cynllunio perthnasol ar sail wrthrychol a diduedd.

 

More Information

There are no news articles that match your criteria.