Transporter Bridge, Newport, Falcon Hildred
'Transporter Bridge', Falcon Hildred
Moderator Wharf, Falcon Hildred
'Moderator Wharf', Falcon Hildred
Transporter Bridge, Main Views, Falcon Hildred
'Transporter Bridge, Main Views', F. Hildred

Casgliad Hildred

Tynnu Llun o Bont Gludo Casnewydd

Falcon D Hildred

(Industrial HeritageVol.30, Rhif 1 Gwanwyn 2004)  

 

Yn 1987 cefais wahoddiad gan Roger Cucksey, Ceidwad Celf yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, i gynhyrchu cofnod gweledol o Gasnewydd gyfoes fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Amgueddfa a gynlluniwyd ar gyfer 1988.  

Cymerodd 'Casnewydd Nawr', fel y daeth y prosiect i gael ei adnabod, dros ddwy flynedd i’w gwblhau a chafwyd cymorth ariannol gan y Comisiwn Amgueddfeydd ac Orielau a Chronfa Grant Pryniant Amgueddfeydd y Victoria and Albert yn Llundain.

Roeddwn wedi clywed am y Bont Gludo ac yn gwybod y byddai'n rhaid i mi gynnwys llun ohonno yn fy sioe.

Ond gan fod yn strwythur mor anarferol, yn debyg iawn i ryw byst gôl enfawr yn fframio llawer iawn o ofod, ‘doedd hi ddim yn hawdd dod o hyd i olygfa foddhaol i'w thynnu. Fodd bynnag, ar ôl dwy awr o grwydro i fyny ac i lawr bob ochr i'r afon ac ar hyd y ffyrdd gerllaw iddi, fe wnes i setlo o'r diwedd ar wneud braslun o  gyfeiriad Stephenson Street.

A dyna, meddyliais gyda boddhad, oedd diwedd y mater.  Gallwn yn awr fynd i chwilio am i rywle i ginio, ond cyn gadael, man a man i mi gael golwg fanylach.  

Wrth i mi syllu gyda rhywfaint o benbleth ar yr holl waith dur, arhosodd dyn ar gefn moped wrth fy ymyl. Dyma, canfûm yn fuan, oedd John McDermott, a oedd yn gofalu am y bont ac a oedd wedi fy ngweld yn braslunio.  

"Hoffech chi fynd i fyny a gweld y tu mewn i'r tŷ modur?"  gofynnodd.

Yn naturiol, derbyniais yn barod, ond wrth fynd i mewn braidd yn siomedig oeddwn i ddod o hyd nid i injan stêm fel yr oeddwn wedi'i ddisgwyl, ond modur trydan. Fodd bynnag, fe wnes i smalio diddordeb a gwneud braslun ohono.  

Yna fe'm synnwyd gan John.  "Hoffech chi ei weld yn gweithio?"  gofynnodd.

Dylwn egluro ar y pwynt yma nad oedd y bont wedi gweithio am ddwy flynedd oherwydd ei bod ar gau i'w hatgyweirio, ac eto yma yr oeddwn yn cael cynnig arddangosiad personol! Ac felly y bu i mi gael fy hun yn edrych i lawr o bwynt gwylio breintiedig y tŷ modur, wrth i John redeg y gondola allan bellter byr dros yr afon ac yn ôl eto, ac esbonio ychydig o bethau am sut roedd y cyfan yn gweithio.  

Yn ôl yn ei weithdy dros fwg o de fe wawriodd arnaf gyda chymysgedd o gyffro a siom nad oeddwn yn mynd i ddianc gydag ond gwneud dim ond un llun.

Roedd y bont yn haeddu nifer, a byddai'n rhaid imi ddysgu rhywbeth am beirianneg er mwyn eu gwneud nhw. Roeddwn llwyth o waith o fy mlaen.  

Y ffordd orau o ddeall unrhyw beth mecanyddol yw ei dynnu’n ddarnau a gweld a allwch chi roi'r cyfan yn ôl at ei gilydd eto'n iawn.

Dyma, mewn ffordd, sut yr es ati i dynnu lluniau o'r bont.

Fe'i tynnais yn darnau a gosodais yr holl ddarnau allan mewn cyfres o bum lluniad, un yn dangos y gweithdy, a'r holl bethau amrywiol yno; un arall yn dangos yr hyn y byddech yn ei weld wrth i chi fynd ar y gondola, ac yn y blaen. Fel hyn, torrais y cyfan i lawr yn ddarnau o faint y gellid eu rheoli.  

Ond yna, fel oeddwn i'n meddwl fy mod wedi gorffen, awgrymodd rhywun y dylwn roi'r holl luniau at ei gilydd mewn llyfr. Wel, mae dangos llun o rywbeth yn un peth.  Mae esbonio popeth amdano yn rywbeth arall. Ond yma, daeth John a Bill a oedd wedi cynnal y bont ac yn ei hadnabod yn dda iawn, i roi cymorth i mi.  

Ac eto, hyd yn oed pan oeddwn yn deall y cyfan fy hun, bu'n rhaid i mi ddod o hyd i ffordd o esbonio popeth heb baldaruo ymlaen neu fynd yn rhy dechnegol.  

Felly, er mwyn cadw arddel hunanddisgyblaeth, dychmygais fy mod yn rhoi taith dywys o amgylch y bont, ac yn fy mharti roedd rhai peirianwyr a oedd yn gwybod popeth am bontydd ac a fyddai felly'n sylwi'n gyflym pe byddwn yn gwneud camgymeriad.

Gyda hwy roedd eu partneriaid nad oeddent yn gwybod dim am beirianneg ond a oedd yn barod i ddysgu, ar yr amod fy mod yn ei gadw'n syml ac yn ddiddorol.

Yna dychmygais fod gennyf rai plant ysgol a oedd fwy na thebyg yn gweithio ar brosiect arbennig fel y llanw neu dyniant trydan.

Ac yn olaf roedd gen i rai ymwelwyr tramor nad oedden nhw'n deall yr iaith yn dda iawn - a dyna pam roedd rhaid i mi fod yn glir ac yn syml ac esbonio, er enghraifft, nad yw Casnewydd yn cael ei galw’n ‘newydd’ yn gymaint am ei bod yn borthladd newydd, ond am fod yr enw'n llygriad o cas(tell) newydd.  

Yna, fel y mae pob tywysydd profiadol wedi dysgu, bu'n rhaid i mi ragweld y cwestiynau annisgwyl, megis "pa ffordd mae'r môr?" neu "sut bethau oedd y tocynnau?"

Roedd dod o hyd i rai o'r atebion weithiau'n golygu gwneud taith arbennig yr holl ffordd o Ogledd Cymru, neu ddringo'r holl ffordd i fyny ar i’r trawst.  

A dyna felly sut y daeth yr hyn a ddechreuodd yn wreiddiol fel un braslun cyflym ar y safle, maes o law yn llyfr o dros 80 o luniadau. Roedd yn slog hir.   

Ond fel y dwedais pan lansiwyd y llyfr, i mi y mae fy lluniau mor aml yn gofnod o rywbeth sydd ar fin cael ei ddinistrio, roedd yn hyfrydwch y tro hwn eu gweld yn cael eu defnyddio i ddathlu ailagor y bont.  

Am ragor o wybodaeth gweler y tudalennau gwe y Bont Gludo

Mae rhai o luniadau Falcon Hildred a grëwyd fel rhan o 'Casnewydd Nawr' wedi eu cyhoeddi ar Gasgliad y Werin Cymru (gwefan allanol).