Homemade swords used by Chartists
Cleddyfau cartref a ddefnyddir gan Siartwyr
Attack of Chartists on Westgate Hotel
Ymosodiad gan Siartwyr ar Westy Westgate
Pistols reportedly found on John Frost when arrested
Honnir bod pistolau wedi’u darganfod ar John Frost

Casgliad y Siartwyr

Siartiaeth yn y 1800au oedd y mudiad gwleidyddol cenedlaethol cyntaf gyda chefnogaeth dosbarth gweithiol eang ar draws gwledydd Prydain ac roedd yn hynod boblogaidd yn ne Cymru.

Cymerodd y Siartwyr eu henw o'u maniffesto, a elwid ganddynt yn Siartr y Bobl.

Daliodd hyn ddychymyg nifer fawr o bobl gyffredin yn ne Cymru a oedd yn cael trafferth gydag amodau byw a gwaith gwael oherwydd bŵm y chwyldro diwydiannol yn yr ardal hon.

Credai'r Siartwyr, pe gallent gael mwy o gynrychiolaeth wleidyddol, y byddent yn gallu brwydro am well amodau byw a gweithio.

Ar 4 Tachwedd 1839, gorymdeithiodd miloedd o Siartwyr lleol i Gasnewydd i brotestio am hawliau gweithwyr cyffredin.

Roedd y Maer a'r milwyr yn aros am y Siartwyr yng Ngwesty'r Westgate a phan gyrhaeddon nhw yno, taniwyd arnynt a thorrodd anhrefn allan.

Clwyfwyd dros 50 o bobl yn ddifrifol a lladdwyd tua 22 o bobl – nid yw'r union nifer yn hysbys am eu bod wedi'u claddu mewn beddau heb eu nodi.

Cafodd yr arweinwyr eu dal a'u harestio a'u rhoi ar brawf yn Nhrefynwy. Cawsant eu dedfrydu i gael eu crogi a'u chwarteru, ond roedd cymaint o anniddigrwydd cyhoeddus fel bod y ddedfryd wedi'i newid i drawsgludiad i Tasmania.

Gwyliwch  ffilm Dathlu Siartiaeth ar YouTube, a gomisiynwyd fel rhan o waith Comisiwn y Siartwyr yn 2016 gyda chyllid Croeso Cymru. 

Casgliad y Siartwyr

Mae casgliad y Siartwyr yn gasgliad o eitemau o bwys cenedlaethol sy'n gysylltiedig â mudiad y Siartwyr yng Nghasnewydd sy’n cynnwys delweddau, arfau, papurau newydd, arian a dogfennau o adeg gwrthryfel y Siartwyr ym 1839.

Y brotest hon yw'r digwyddiad pwysicaf yn hanes Casnewydd ac mae'r casgliad hwn wastad wedi ei arddangos yn barhaol yn yr amgueddfa.

Agorwyd arddangosfa bresennol Siartiaeth yng Nghasnewydd yn swyddogol ym mis Ebrill 2010 gan yr actor o Gymro, Michael Sheen.

Dysgwch am beth a phwy oedd y Siartwyr, sut a pham Siartiaeth, y brotest, Siartiaeth a'r teulu, yr achos llys, y dedfrydu, yr alwad am ryddid a'r gwaddol.

Ysgrifennwch eich barn eich hun ar ein wal waddol, dysgwch am y system siopa tryc drwy weithio allan pa gynhyrchion i'w prynu gyda'ch cyflogau am yr wythnos a gwrando ar John Frost, un o arweinwyr y Siartwyr, yn ogystal â gwleidyddion lleol a disgynyddion i’r Siartwyr.

Ceir ffilm fer sy'n dangos cyfweliad rhwng Sylvia Taylor, disgynydd lleol i’r Siartwyr a phlant ysgol lleol, sydd hefyd yn ail-greu achos llys y Siartwyr.

Gweler hefyd gasgliad Llyfrgelloedd Casnewydd o ddogfennau’r Siartwyr