Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd wedi bod yn casglu tystiolaeth o hanes, diwylliant ac amgylchedd y ddinas ers 1888.
Mae arddangosfeydd yr amgueddfa yn adrodd hanes Casnewydd o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at yr 20fed Ganrif ac mae arddangosfeydd dros dro bob amser yn cynnig rhywbeth newydd i'w weld!
Dewch i ymweld ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd a dysgu mwy am orffennol diddorol Casnewydd.
Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd wedi derbyn cefnogaeth barhaus gan sefydliadau gan gynnwys:
Llywodraeth Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru
Cronfa Grant Prynu V&A
Y Gymdeithas Celf Gyfoes
Cymdeithas Celf Gyfoes Cymru
Y Gronfa Gelf
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru
Mae Cyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn grŵp annibynnol. I ymuno neu ddysgu mwy am Gyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ewch i’r wefan.
Browser does not support script.