Fox Collection
Arddangosfa Iris a John Fox
Fox Collection
Cathod Wemyss Ware
fox wemyss
Wemyss Ware

Casgliad Fox

Casgliad Iris a John Fox

Yn 1991 cysylltodd cwmni o gyfreithwyr o Gaeredin â'r Amgueddfa ac Oriel Gelf i fynd i weld casgliad o gerameg oedd yn eiddo i Mrs Iris Fox.  

Roedd eu llythyr yn nodi:

"Cafodd Mrs Iris Fox ei geni y tu allan i Gasnewydd ond mae wedi byw yng Nghaeredin ers blynyddoedd lawer. Mae hi bellach bron yn 78 oed ac mae ganddi gasgliad rhagorol o Wemyss Ware a phorslen Almaenig a Ffrengig.  Mae wedi caru ei mamwlad, Cymru, erioed, ac rwy'n credu y byddai wrth ei bodd petai amgueddfa yng Nghymru, un ger ei man geni yn ddelfrydol, yn cael budd o’i chasgliad."  

Yn dilyn ymweliad cychwynnol yn 1991 a sawl ymweliad pellach yn ystod 1992 hyd at farwolaeth Mrs Fox ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, dewiswyd pum cant o ddarnau crochenwaith, porslen, dodrefn a doliau a'u rhoi wedyn i Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd.  

Iris Fox

Roedd Iris Ivy Elizabeth yn un o bedwar o blant a anwyd i Owen a Beatrice Fudge o Drecelyn ym mis Hydref 1913.

Roedd ei thad yn ddyn coed mewn glofa ac roedd ei mam, personoliaeth rymus, yn fasnachwr greddfol mewn amrywiaeth o nwyddau.

Dylanwadodd ei mam yn fawr ar Iris a bu ei phrofiadau cynnar  o fudd mawr iddi yn ddiweddarach yn ei bywyd.

Ar ôl cyfnod byr o addysg yn ardal Stow Hill yng Nghasnewydd, treuliodd Iris ei phlentyndod gartref yn cadw tŷ ac yn gofalu am ei brawd iau sâl Jack.

Wedi'i hysbrydoli gan ei mam, oedd yn casglu darnau d'art, dechreuodd Iris ei hun yrfa gasglu yn blentyn ifanc pan brynodd ei darnau porslen cyntaf am chwe cheiniog. Roedd hi wedi casglu’r arian drwy werthu coed tân.  

Bu’n byw drwy galedi bywyd cymoedd y de drwy'r I920au a'r 1930au, ac yna priododd Iris â John Stanley Fox yn 1935.

Ar ôl cyfres o fentrau masnachol fe deithion nhw i Lundain i chwilio am waith.

Pan ddatganwyd rhyfel yn 1939 roedd Iris eisoes wedi cymryd gwaith fel ceidwad tŷ ac roedd ei gŵr wedi'i danysgrifio i wasanaethu gyda’r Fagnelaeth Frenhinol yng Ngogledd Affrica.  

Caeredin

Yn ystod y rhyfel datblygodd Iris ei sgiliau fel ceidwad tŷ a nani ac, ar ôl genedigaeth ei mab John yn 1944 aeth ei swydd â nhw i'r Alban.

Ar ôl y rhyfel cafodd Stanley ei aduno â’i deulu yng Nghaeredin.

Yn 1948, trawodd trychineb aelwyd Fox pan oedd y trên yr oedd y tad a’r mab yn teithio ynddo, yn ystod ymweliad â de Cymru, mewn damwain drychinebus.

Lladdwyd y plentyn ac anafwyd ei dad yn wael. Galluogodd yr iawndal a gafodd Iris a Stanley gan y cwmni rheilffordd nhw i gaffael nifer o dai preswyl yn Lauriston Place ger Prifysgol Caeredin.  A hefyd dwy siop hen bethau - un yr un!  

Daeth brawd Iris, Jack, i ymuno â nhw yn yr Alban, a gweithiodd y tri’n galed i ddarparu ar gyfer dros 40 o fyfyrwyr yn eu llety.

Gwnaed llawer o ffrindiau yn ystod y cyfnod hwn gan gynnwys y nofelydd enwog o'r Alban, Muriel Spark, yr oedd ei mab yn un o'u lletywyr.  

Casgliadau

Cariad Iris Fox at anifeiliaid a blodau a yrrodd natur ei chasgliad.

Dyma pam aeth ati i gaffael Wemyss Ware, darnau sydd wedi eu haddurno'n helaeth, ymhell cyn iddyn nhw fod yn ffasiynol, ac roedden nhw’n adlewyrchiad perffaith o’i harddull casglu.

Mae'n ymddangos bod yr ychydig amser sbâr oedd gan Iris a Stan wedi cael ei dreulio'n chwilio drwy siopau hen bethau, tai arwerthu ac ystafelloedd gwerthu ymhob cwr o’r Alban, yn prynu eu casgliadau cynyddol o grochenwaith o'r Alban a Lloegr, porslen Ewropeaidd, dodrefn, darnau gwydr a doliau.  

Wedi iddyn nhw werthu eu tai preswyl, fe brynon nhw eiddo mawr ar gyrion Caeredin ym mis Hydref 1969.

Roedd yn dŷ Fictoraidd, gydag un ar bymtheg o ystafelloedd, gardd a bloc stablau. Roedd yn adeilad amlwg, yn ddigon digysur mewn rhai ffyrdd, ond galluogodd nhw i ddod â’u casgliadau ynghyd a’u harddangos mewn amrywiaeth o ystafelloedd ysblennydd thematig.

Roedd pob ystafell yn y tŷ yn orlawn ac roedd gan bob un ei hunaniaeth ei hun - hyd yn oed yr ystafell ymolchi lan llofft, oedd yn gartref i gasgliad o eitemau coffa yn dathlu’r bardd Albanaidd, Robert Burns.

O amcangyfrif yn geidwadol roedd y tŷ yn cynnwys dros ddeg mil o eitemau.  

Roedd siop hen bethau Iris yn West Bow, ger marchnad Grassmarket yn ardal hen dref Caeredin, yn lleoliad delfrydol.

Roedd yn fan cyfarfod lle roedd bargeinion yn cael eu taro. Ond yn nodweddiadol o Iris roedd mwy o eitemau yn cael eu prynu yma na’u gwerthu.

Byddai’r rhai yr oedd Iris yn arbennig o hoff ohonyn nhw yn cael eu gwahodd wedyn i’r tŷ.   

Hoff ystafell Iris oedd yr un roedd hi’n ei galw’n ‘Balas Buckingham'. Roeddech yn mynd i’r ystafell hon drwy ddrws panelau mawr, gyda’r Arfbais Brenhinol yn ei amgylchynu, ac wedyn byddech yn gweld gwledd o borslen o’r Almaen a Ffrainc.   

Roedd ymweld ag aelwyd Fox yn brofiad na fyddai rhywun byth yn ei anghofio. Roedd rhywun yn teimlo'n arbennig o freintiedig o gael taith dywys bersonol a chlywed hanes angerddol y casglu.   

Roedd yr ardd hefyd yn lle ecsentrig a hudolus. Wedi'i chynllunio'n ofalus i gyd-fynd â'u gofynion, roedd yn cynnwys dwsinau o faddonau enamel a oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer tyfu blodau.

Roedd Graham a Jack, pâr o wyddau bywiog, yn diogelu’r ardd rhag unrhyw un ddeuai yno heb wahoddiad.  Roedd ieir a cheiliogod hefyd yn byw’n dwt mewn cytiau ac yn darparu wyau ffres.

Roedd anifeiliaid anwes domestig yn hamddena’n braf yn y tai gwydr cynnes, y llwyni toreithiog a’r gwelyau blodau.

Roedd y ffordd hunangynhaliol ac annibynnol hon o fyw yn rhywbeth yr oedd y teulu’n gweithio’n galed i’w sicrhau, yn aml ar draul eu cysur eu hunain.

Y casgliadau oedd yn dod gyntaf, wastad.  Nhw oedd y plant na fu modd i’r teulu eu cael.   

Ar ôl marwolaeth Iris ym mis Rhagfyr 1992 gwasgarwyd cynnwys y tŷ a gwerthwyd yr eiddo a'r siop hen bethau.  

Mae eu stori wedi ei seilio ar atgofion personol, deunydd dogfennol, ffotograffau a fideos a wnaed tra oedd Mrs Fox yn dal yn fyw.

Mae'n hanes o galedi, tristwch a chryfder, ac yn anad dim y pleser o gasglu.

Mae'n briodol felly bod haelioni ysbryd Iris yn cael ei adlewyrchu yn y rhodd a wnaeth i Gasnewydd.  

Mae'r Amgueddfa hon yn falch o fod wedi chwarae ei rhan i ddod â Chasgliadau Mrs Fox i'r cyhoedd.  

Bu farw John Stanley Fox yn 1980. Bu farw Iris Fox yn 1992. A bu farw Jack Fudge yn 1993.  

Gwerthwyd Casgliad Fox gan Sotheby's yn Ystafelloedd Ymgynnull Caeredin ar 7 ac 8 Tachwedd 1994.   

Rhoddwyd yr elw i hoff elusennau Iris Fox yng Nghaeredin, yr Ymddiriedolaeth Diabetig yn yr Ysbyty Brenhinol, Fferyllfa’r Bobl ar gyfer Anifeiliaid Sâl, y Princess Alexandra Eye Pavilion a Seilam ac Ysgol Brenhinol y Deillion.

Addurnwyd y gath Wemyss ag 'Iris' yn arysgrif arni, yn y llun uchod, gan Griselda Hill (Griselda Hill Pottery Ltd.) ac fe'i comisiynwyd gan Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ym 1995 i’w harddangos yng nghasgliad Fox.