Archaeoleg
Mae'r casgliadau archaeoleg yn cwmpasu dros 100 mlynedd o gasglu ac yn cynrychioli miloedd o flynyddoedd o weithgarwch dynol yng Nghasnewydd a'r cyffiniau.
Mae'r gwrthrychau hynaf yn dyddio o'r cyfnodau Cynhanesyddol cyn y gallai pobl ysgrifennu ac yn cynnwys arteffactau a wnaed gan gasglwyr-helwyr; y ffermwyr cyntaf a'r gweithwyr metel cyntaf.
Adroddir hanes de ddwyrain Cymru Rufeinig drwy arteffactau sy'n dangos agweddau ar fywyd milwrol a sifiliaid.
Mae'r casgliadau canoloesol yn cynnwys arteffactau Llychlynnaidd a Normanaidd ac yn cynnwys darganfyddiadau o gestyll, abatai a priordai pwysig.