Transporter Bridge
Transporter Bridge
Transporter Bridge Visit

Y Bont Gludo

Sylwch, oherwydd y Prosiect Trawsnewid Pont Gludo parhaus, mae'r safle ar gau ar hyn o bryd.

Mae’r prosiect yn cynnwys dwy elfen benodol: adeiladu canolfan ymwelwyr newydd ar gyfer y safle, a’r gwaith adfer sy’n digwydd ar y bont fyd-enwog ei hun.

Bydd y ganolfan ymwelwyr ar agor ar gyfer ymweliadau cymunedol ac ysgolion wedi’u trefnu o fis Ionawr 2025, gan gynnig cipolwg cyntaf i bobl Casnewydd ar y cyfleusterau newydd gwych sydd ar gael.

Mae cyllid ar gyfer y prosiect trawsnewid wedi dod o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, a Sefydliad Wolfson, gyda’r cyngor hefyd yn gwneud cyfraniad ariannol.

 

Rydym yn annog ymwelwyr i’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am gynnydd a digwyddiadau:

Twitter a Facebook - @NpTbridge

Instagram - @nptbridge1906

Mae Pont Gludo hynod Casnewydd yn un o ddim ond chwe phont gludo weithredol ledled y byd o gyfanswm o ugain a adeiladwyd.

Agorodd y bont ym 1906 ac mae wedi dominyddu tirlun Casnewydd ers hynny. 

Gwyliwch y Fideo


Yn y bôn, fferi ar grog yw’r bont gludo sy’n gallu gweithredu'n fwy effeithlon na fferi gonfensiynol.

Mae trawst uchel sy'n caniatáu i longau fynd oddi tano yn hongian o dyrrau ar bob pen.

Ar y trawst mae trac rheilffordd y mae cerbyd neu 'deithiwr' yn symud ar hyd iddo.

Mae hirgwch neu blatfform yn hongian o'r cerbyd a gellir ei dynnu o un ochr i'r afon i'r llall drwy gyfrwng cebl cludo.

Pwerir y Bont Gludo gan ddau fodur trydan â phŵer ceffyl o 35. 

Er mai syniad y peiriannydd o Sais Charles Smith oedd y 'fferi o'r awyr', adeiladwyd yr enghraifft go iawn gyntaf gan y Sbaenwr Alberto Palacio a’r Ffrancwr Ferdinand Arnodin ym 1893 yn Portiugalete ger Bilbao yng Nglwad y Basg.

Ewch i wefan y World Association of Transporter Bridges

Pam Bont Gludo?

Ym 1900 roedd Casnewydd yn borthladd prysur iawn, llawer ohono wedi’i leoli i fyny’r afon o ble mae’r Bont Gludo bellach yn sefyll.

Roedd diwydiant yn ehangu ar ochr ddwyreiniol yr afon a oedd, i'r boblogaeth ar yr ochr orllewinol, yn golygu taith gerdded 4 milltir i groesi'r afon dros bont y dref i gyrraedd y gwaith.  

Roedd fferi'n gweithredu ond roedd amseroedd newidiol y llanw a'r gwahaniaeth eithafol rhwng y llanw a’r trai yn golygu nad oedd hwn yn ddull ymarferol o groesi ar gyfer gwaith. Bu nifer o ddamweiniau angheuol hefyd. 

Roedd Peiriannydd y Fwrdeistref, Robert Haynes, wedi clywed am y pontydd arloesol newydd oedd yn cael eu hadeiladu ar y cyfandir ac wedi annog y cyngor i ymweld â'r bont gludo newydd yn Rouen yn Ffrainc.

Roedd pont gludo yn cynnig ateb economaidd gan fod twnelu yn dechnegol anodd a drud ac roedd ar bont gonfensiynol angen esgynfa hir iawn i gael digon o uchder i alluogi llongau tal y dydd i barhau ar hyd y ddyfrffordd.

Adeilad

Ceisiwyd cael sêl bendith seneddol i adeiladu'r bont ac fe’i sicrhawyd ym 1900 a dechreuodd y gwaith ym 1902. 

Penodwyd Haynes ac Arnodin yn beirianwyr ar y cyd a rhoddwyd y contract i adeiladu'r bont i Alfred Thorne o Westminster.

Costiodd y bont £98,000 i'w chwblhau ac fe'i hagorwyd ar 12 Medi 1906 gan Arglwydd Tredegar o Dŷ Tredegar. 

Ffeithiau a ffigurau 

Prif rychwant

645 troedfedd

197 metr

Pellter rhwng wyneb y dyfroedd

592 troedfedd

180 metr

Uchder ar lanw llawn i waelod y cebl sy'n croesi

177 troedfedd

54 metr

Uchder o dop y tŵr i farc lefel y dŵr

242 troedfedd

74 metr

Pellter o'r angor i'r tŵr

450 troedfedd

137 metr

Cyfanswm y pellter rhwng yr angorau dwyreiniol a gorllewinol

1545 troedfedd

 471 metr

Pwysau’r dur ym mhob tŵr

277 tunnell

282 tunnell fetrig

Pwysau’r dur yn y prif gebl sy'n croesi

539 tunnell

548 tunnell fetrig

Pwysau'r gadwyn

16 tunnell

16 tunnell fetrig

Pwysau'r hirgwch a'r ceblau crogadwy

35 tunnell

36 tunnell fetrig

Diamedr y prif geblau crogadwy

3 modfedd

75 milimetr

Cyfanswm pwysau'r ceblau crogadwy

196 tunnell

199 tunnell fetrig

Pwysau pob angor o feini nadd

2200 tunnell

2236 tunnell fetrig

Sylfeini'r tŵr

Diamedr Caisson

20 troedfedd

6 metr

Dyfnder y lan ddwyreiniol

86 troedfedd

26 fetr

Dyfnder y lan orllewinol

78 troedfedd

24 metr

Cyflymder yr hirgwch

10 troedfedd yr eiliad

3 metr yr eiliad

Pŵer

Cerrynt trydanol uniongyrchol

 

Moduron

2 (35 pŵer ceffyl yr un)