Hanes naturiol
Cyrhaeddodd y rhan fwyaf o'r casgliadau hanes naturiol i'r amgueddfa ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif.
Rhoddion oedd y mwyafrif a ddaeth gan y fonedd leol a’r dosbarth canol dylanwadol.
Yn y blynyddoedd cynnar, ystyriwyd bod unrhyw beth a phopeth yn addas ac nid oedd hi tan 1913 nes penodi’r curadur proffesiynol cyntaf i gasglu ddod yn fwy penodol a strwythuredig.
Ers diwedd y 1980au nid yw'r adran hanes naturiol wedi ychwanegu sbesimenau ar gyfer y casgliadau.
Ar wahân i bolisïau y cytunwyd arnynt, mae gwahanol Ddeddfau Seneddol bywyd gwyllt yn gwneud llawer o gasglu o'r gwyllt yn anghyfreithlon.