Hanes cymdeithasol
Mae casgliad hanes cymdeithasol Amgueddfa Casnewydd yn cynnwys 20,700 o wrthrychau sy'n adlewyrchu bywydau beunyddiol pobl gyffredin yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos dros y 200 mlynedd diwethaf.
Mae'r themâu'n amrywio o fywyd domestig a phersonol, addysg, crefydd a gwleidyddiaeth i ddatblygiadau diwydiannol lleol ac amaethyddiaeth ac yn cynnwys gwrthrychau mor amrywiol ag offer, hwfers, manglau, peiriannau golchi, offer cartref i arteffactau, ffotograffau a gwisgoedd yn ystod y rhyfel.
Yn cynnwys archif y Bont Gludo a chasgliad y Siartwyr.