Ship Discovery
Ship Discovery

Darganfod

Darganfuwyd olion helaeth llong hwylio ganoloesol sylweddol yn ystod y gwaith o adeiladu Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon ar lan orllewinol afon Wysg yng Nghasnewydd ddiwedd mis Mehefin 2002.

Cydnabu Cyngor Dinas Casnewydd a Llywodraeth Cymru ar y pryd arwyddocâd y llong a nodwyd arian i gloddio a gwarchod y llong.

Datgymalwyd y llong a'i chodi, fesul darn dros gyfnod o ddeuddeng wythnos rhwng mis Awst a mis Tachwedd 2002.

Llong Casnewydd yw'r enghraifft fwyaf cyflawn o long fasnachol estyllog o’r bymthegfed ganrif a ganfuwyd erioed yn y Deyrnas Unedig.

Ymddengys bod y llong wedi’i hadeiladu yn arddull ‘cêl yn gyntaf’ ar sail cragen Gogledd Ewrop, o’i gymharu â’r traddodiad cogen a sgerbwd y llong.