Ship Excavation
Ship Excavation

Cloddio

Daeth llong ganoloesol Casnewydd i’r amlwg wrth gloddio ar gyfer pwll cerddorfa newydd yn Theatr Glan yr Afon.

Ffawd oedd hi mai'r unig ran o'r safle adeiladu a oedd angen cloddio dwfn oedd yr un fyddai'n datgelu llong ganoloesol.

Yn anffodus, cafodd y llong ei difrodi wrth i waliau’r theatr gael eu gosod a hefyd wrth i nifer o bileri concrid gael eu gyrru drwy gorff y llong cyn ei darganfod.

I ddechrau cloddio'r llong, labelwyd y darnau gweladwy o bren a'u tynnu'n systematig, fesul haen.

Roedd angen rhoi sylw gofalus i sawl rhan o'r llong er mwyn osgoi difrod pellach yn ystod y broses gloddio - er enghraifft, defnyddiwyd lletemau i wahanu fframiau ac estyllod cragen y llong yn ofalus a defnyddiodd y craeniau oedd yn codi’r darnau o bren strapiau a slingiau wedi'u padio'n arbennig.

Cafodd holl olion y llong a gloddiwyd eu storio oddi ar y safle mewn cynwysyddion dŵr croyw mawr i’w hatal rhag pydru.

Cafodd cyfanswm o 1700 o ddarnau o bren o’r llong a thros 600 o ddarnau pren a darnau bach cysylltiedig eu hadfer o’r llong a'u catalogio.