Ship Conservation
Ship Conservation

Cadwraeth

Yr hyn a ganfuwyd gennym

Mae archeolegwyr wrth eu bodd yn dod o hyd i wrthrychau o'r gorffennol; gelwir y rhain yn arteffactau. Gallant roi gwybodaeth wrthym am bobl yn y gorffennol. Y rhan fwyaf o'r amser mae archaeolegwyr ond yn dod o hyd i rannau o wrthrychau, ond mae'n dal yn bosibl dysgu llawer o un darn yn unig.

Wrth gloddio Llong Casnewydd darganfu'r archaeolegwyr rannau o 400 o wrthrychau a roddodd wybodaeth i ni am y llong ei hun, y criw ar ei bwrdd a hefyd sut beth oedd bywyd yng Nghasnewydd yn y canol oesoedd.

Dau o'r darganfyddiadau mwyaf cyffrous yw darn o stribed pres ag arysgrif arno y credir ei fod wedi dod o ddarn o arfwisg, a darn lledr i’w wisgo o amgylch yr arddwrn.

Byddai'r gorchudd arddwrn hwn wedi cael ei wisgo gan saethwr i warchod ei ddillad a'i groen rhag clec llinyn y bwa wrth iddo danio saeth. Mae darganfod y gorchudd arddwrn hwn a darnau o beli cannon yn awgrymu bod rhai o’r criw wedi gallu amddiffyn y llong gydag arfau pe bai rhywun yn ymosod arno.

Yn ystod y cyfnod hwn roedd môr-ladron yn fygythiad enfawr ar y môr ac ymosodwyd ar lawer o longau masnach a'u dwyn. 

Ymhlith darganfyddiadau pellach mae blociau tynnu a darnau rigio a fyddai wedi cael eu defnyddio wrth i bobl weithio ar y llong; tecstilau, defnydd hwyliau a dillad gwlân, corc, darnau arian o Bortiwgal a chrochenwaith ac eiddo personol gan gynnwys dau grib a darn hapchwarae.

Un o'r gwrthrychau pwysicaf a ganfuwyd oedd darn arian Ffrengig a roddwyd yng nghêl y llong.  Roedd gosod darnau arian yn y pren yn arwydd o lwc dda. Mae arbenigwyr wedi dyddio'r geiniog i ddiwedd y 1440au.