wayside cross
Croes ymyl ffordd ganoloesol o Gasnewydd
Lion Caerwent
Llew, mosäig pedwar tymor o Gaerwent
Chepstow head
Iron Age bull mount from Chepstow Mownt o darw o'r Oes Haearn a ddarganfuwyd yng Nghas-gwent

Archaeoleg

Mae'r casgliadau archaeoleg yn cwmpasu dros 100 mlynedd o gasglu ac yn cynrychioli miloedd o flynyddoedd o weithgarwch dynol yng Nghasnewydd a'r cyffiniau.  

Mae'r gwrthrychau hynaf yn dyddio o'r cyfnodau Cynhanesyddol cyn y gallai pobl ysgrifennu ac yn cynnwys arteffactau a wnaed gan gasglwyr-helwyr; y ffermwyr cyntaf a'r gweithwyr metel cyntaf. 

Adroddir hanes de ddwyrain Cymru Rufeinig drwy arteffactau sy'n dangos agweddau ar fywyd milwrol a sifiliaid.  

Mae'r casgliadau canoloesol yn cynnwys arteffactau Llychlynnaidd a Normanaidd ac yn cynnwys darganfyddiadau o gestyll, abatai a priordai pwysig.