Llong Casnewydd
Darganfuwyd Llong Ganoloesol Casnewydd ar lannau Afon Wysg ym mis Mehefin 2002 yn ystod y gwaith o adeiladu Theatr Glan yr Afon.
Cloddiwyd y llong i’r wyneb, drawst wrth drawst, gan dîm o archaeolegwyr.
Wedi'u cefnogi i ddechrau gan grant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri a bellach gan arian prif ffrwd o Gyngor Dinas Casnewydd, mae tîm o arbenigwyr yn cofnodi ac yn gwarchod pob un o’r 2000 o ddarnau o bren ac arteffactau a ddarganfuwyd yn ystod y cloddio.
Mae'r gwaith yn datgelu gwybodaeth newydd a chyffrous am long Casnewydd gan ein haddysgu llawer mwy am y llong, gan gynnwys ei maint a'i siâp gwreiddiol, lle cafodd ei hadeiladu, y gwahanol rannau o'r byd yr hwyliodd iddynt, a beth oedd ei chargo.
Ysgolion
Bydd gan ysgolion ddiddordeb yn ein Hadnodd gwe i ysgolion ar Long Casnewydd ar gyfer myfyrwyr Cyfnod Allweddol 3, a ddatblygwyd ar y cyd â'r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu.
Cyfeillion Llong Casnewydd
Elusen gofrestredig yw Cyfeillion Llong Casnewydd sy'n cael ei chynnal yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. I gael gwybod mwy neu i ymuno, ewch i wefan Cyfeillion Llong Casnewydd.