Self portrait, Shani Rhys James
'Self Portrait', Shani Rhys James
'Head', bronze bust, Robert Mitchell
'Head', Robert Mitchell
'Newport High Street, Edgar J. Maybery
'Newport High Street', E.J. Maybery

Celf

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn gofalu am dros 7,300 o weithiau celf gan gynnwys gweithiau gan Syr Stanley Spencer, L.S. Lowry, y Fonesig Laura Knight, Stanhope Forbes a James Flewitt Mullock, artist o Gasnewydd o'r 19eg ganrif.  

Mae'r casgliadau'n dangos y newid yn nhirwedd wledig a diwydiannol de Cymru ac yn cynnwys rhoddion gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chymdeithas Gelf Gyfoes Cymru.  

Mae gofod arddangos cyfyngedig yn yr Oriel yn golygu na allwn ddangos popeth bob amser, ffoniwch ymlaen llaw os ydych yn dymuno gweld darn penodol.    

Mae llawer o'n gweithiau dau ddimensiwn wedi'u digido a gellir eu gweld ar-lein.  I gael mynediad at ddelweddau o'r rhan fwyaf o baentiadau yn y casgliadau celf ewch i wefan Art UK.  

Ar gyfer detholiad o luniau dyfrlliw a gweithiau eraill ar bapur ewch i Casgliad y Werin Cymru.  

Mae gwefan Casnewydd adeg Rhyfel: y Ffrynt Cartref yn dangos rôl y Ffatri Ordnans Frenhinol yng Nghasnewydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cwestiynau Cyffredin

Faint o weithiau sydd yn y casgliad celf?

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn gofalu am dros 7,300 o weithiau celf sy'n cynnwys:

• Dros 500 o baentiadau, y rhan fwyaf ohonynt yn baentiadau olew

• Tua 2,900 o luniadau gan gynnwys 1,100 o luniadau dyfrlliw

• Tua 1,500 o argraffiadau yn amrywio o ysgythriadau hanesyddol i lithograffiau cyfoes 

• Tua 2,450 o weithiau celf addurniadol gan gynnwys cerameg addurniadol, nwyddau coffa a chrochenwaith stiwdio   

Faint o weithiau sy'n cael eu harddangos?

 Ar gyfartaledd mae tua 1,100 o weithiau celf addurniadol yn cael eu harddangos, yn bennaf Arddangosfa debotiau John ac Elizabeth Wait ac Arddangosfa Iris a John Fox o cerameg addurniadol.  

Fel arfer mae tua 100 o baentiadau a gwaith 2 ddimensiwn arall yn cael eu harddangos ac mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar thema a chynnwys arddangosfeydd dros dro. 

Beth yw gwerth y casgliad celf?

Nid ydym yn canolbwyntio ar werth ariannol eitem yn y casgliad, ei harwyddocâd hanesyddol a lleol neu ei gwerth artistig sy'n cyfrif.

Felly, nid ydym yn prisio pob eitem a gweithiau celf yn unigol, mae casgliadau wedi'u prisio'n gyffredinol at ddibenion yswiriant cyffredinol.  

Pam mae cyn lleied o luniadau'n cael eu harddangos?

Mae gwaith ar bapur yn sensitif iawn i olau a dim ond am gyfnod cyfyngedig y gellir eu harddangos.

Mae angen lleihau lefelau golau yn yr ardal lle mae gwaith ar bapur yn cael ei arddangos.

Mae llawer o arddangosfeydd dros dro yn yr oriel gelf yn canolbwyntio ar luniadau, dogfennau neu brintiau.

Edrychwch ar y dudalen Beth sy'n Digwydd  i weld beth sy'n cael ei arddangos ar hyn o bryd a beth sydd ar y gweill.  

>Casgliad Fox

>Casgliad Hildred

>Casgliad Wait