Visit us
Mynedfa'r Amgueddfa a'r Oriel Gelf
Holiday craft sessions in Art Gallery
Sesiynau crefft gwyliau
Visit us
Arwyddbyst amgueddfa yng Nghanol y Ddinas

Ymweld

Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Sgwâr John Frost
Casnewydd
De Cymru
NP20 1PA
Ffôn +44 (0) 1633 656656

E-bost: [email protected]

Oriau agor 

Dydd Llun            ar gau

Dydd Mawrth      9.30am – 5.00pm

Dydd Mercher     9.30am – 5.00pm

Dydd Iau              9:30am – 5:00pm

Dydd Gwener       9.30am – 5.00pm

Dydd Sadwrn       9.30am – 4.00pm

Dydd Sul              Ar gau

Ar gau yn ystod gwyliau banc 

Mae mynediad am ddim!

E-bostiwch [email protected]  gydag unrhyw ymholiad am eich ymweliad. 

Cyfleusterau

Mae seddau cyfyngedig ar gael yn yn ardaloedd yr oriel.  

Mynediad lifft i bob llawr. I gael mynediad i'r lifft i'r Amgueddfa Mesanîn, ewch at y staff yn y Ddesg Wybodaeth ar y llawr cyntaf.  

Mae toiledau cyhoeddus ar y trydydd llawr. 

Mae’r toiled hygyrch ar y llawr cyntaf.

Mae cyfleusterau newid babanod ar gael ar y llawr cyntaf.  

Sut i ddod o hyd i ni

Car

Gellir cyrraedd Casnewydd yn rhwydd ar hyd yr M4. Prin yw’r cyfleusterau parcio ceir o gwmpas Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd. Yn ystod oriau agor yr amgueddfa, maes parcio Canolfan Ffordd y Brenin yw’r opsiwn parcio agosaf.

Mae cyfeiriadau i’r maes parcio ar arwyddion ar bob prif lwybr o gwmpas Casnewydd.

Mwy o wybodaeth am feysydd parcio canol dinas Casnewydd. 

Trên

O’r orsaf drenau (allanfa canol y ddinas), trowch i’r chwith wrth yr allanfa a cherdded heibio’r safle tacsis.

Croeswch y ffordd a dilynwch y llwybr i gerddwyr i’r brif dramwyfa siopa, Commercial Street.

Wrth gerdded i fyny’r stryd, trowch i lawr Llanarth Street i mewn i Sgwâr John Frost.

Mae’r Amgueddfa a’r Oriel Gelf yn syth i’ch ochr de (yn yr un adeilad â’r llyfrgell).

Bws

O orsaf fysus Marchnad Casnewydd, cerddwch wrth ochr Marchnad Casnewydd i’r Stryd Fawr.

Trowch i’r chwith i’r Stryd Fawr a pharhau ar hyd Commercial Street sy’n ardal i gerddwyr yn unig.

Trowch i’r chwith i lawr Llanarth Street i Sgwâr John Frost. Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn rhannu adeilad â Llyfrgell Ganolog Casnewydd ac mae yn syth i’r dde wrth i chi gyrraedd y sgwâr. 

O orsaf fysus Friars Walk, cerddwch trwy’r ganolfan siopa. Byddwch yn gweld yr Amgueddfa yng nghornel groes Sgwâr John Frost pan fyddwch yn dod allan o’r rhodfa dan do. 

Canllaw Mynediad i Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd

Rydym yma i chi!

Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yng nghornel Sgwâr John Frost ger y fynedfa i Ganolfan Siopa Ffordd y Brenin.

Rydym yn croesawu pawb ac mae gennym ystod o wasanaethau wedi’u cynllunio i sicrhau bod eich ymweliad yn fwy pleserus.

Mae’r Amgueddfa a’r Oriel Gelf yn adrodd hanes Casnewydd o’r cyfnod cynhanesyddol cynharaf i’r 1900au. O ddiddordeb arbennig mae casgliadau am y Rhufeiniaid a’r Siartwyr.

O bryd i’w gilydd byddwn yn trefnu sgyrsiau am ein casgliadau.

Facebook: www.facebook.com/NewportMuseum

Twitter: www.twitter.com/NewportMuseum

Ffôn (01633) 656757

Minicom (01633) 656657

Mae’r oriau ymweld uchod. 

Sut i gael y gorau gennym ni…

Mae ein staff yn wych; dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch i fwynhau eich ymweliad a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

Os oes angen deunydd arnoch i’w drin, cysylltwch â ni a gallwn drefnu bod aelod o staff yn helpu.  

Eich gwasanaeth gwybodaeth am ddim…

I gael gwybod mwy am Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd a beth sy’n digwydd yma, cysylltwch â ni gyda’ch manylion cyswllt a’ch dewis o fformat ar:

(01633) 656656

(01633) 656657 – minicom

Neu [email protected]

Neu www.newport.gov.uk/museum

Ein hymrwymiad mynediad i chi…

  • Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yn croesawu pawb. Gellir ymweld â ni a mynychu sgyrsiau a digwyddiadau arbennig am ddim.
  • Mae’r amgueddfa ar lawr 1 a’r balconi mesanîn y gellir ei gyrraedd mewn lifft. Gofynnwch i aelod o staff i’ch helpu.
  • Mae’r oriel gelf ar lawr 3 y gellir ei gyrraedd mewn lifft. 
  • Mae croeso i gŵn cymorth a gallwn ddarparu dŵr i’ch ci.
  • Mae toiledau hygyrch ar lawr 1.

Mynediad i’r adeilad

Mae mynedfa’r adeilad yn wastad, ar yr un lefel â Sgwâr John Frost. Mae drysau awtomatig i’r adeilad sy’n cael eu rhannu â’r llyfrgell. Mae desg wybodaeth â staff ar y llawr cyntaf.

Mae 31 o risiau gydag un tro i lawr 1 a 43 o risiau eraill gyda thri thro i lawr 3.

Yn yr amgueddfa mae dwy set o risiau i’r balconi mesanîn. Mae gan bob un 19 o risiau gydag un tro. Mae gan y grisiau hyn duoedd blaen agored.

Mae gan yr amgueddfa fynedfa agored. 

Mae’r drysau i’r oriel gelf ar lawr 3 yn agor tuag allan i’r cyntedd.

Mae cadeiriau gyda breichiau ym mhob rhan o’r amgueddfa a’r oriel gelf.

Mae lefelau’r goleuadau yn yr amgueddfa yn is na’r arfer oherwydd bod llawer o’r gwrthrychau sy’n cael eu harddangos yn sensitif i olau. Siaradwch ag aelod o staff os yw hyn yn broblem i chi.

Mae un arddangosfa glyweledol barhaol yn yr amgueddfa. Mae yn arddangosfa’r Siartwyr yng nghefn yr amgueddfa.   

Gadael mewn Argyfwng

Mae gan y larymau gyfarwyddiadau llais. Bydd staff yn helpu ymwelwyr sydd angen cymorth i adael yr adeilad. 

Mynd i Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ac yn ôl

Yn anffodus, nid oes unrhyw fynedfa i gerbydau uniongyrchol o flaen yr adeilad.

Mae’r maes parcio agosaf ym maes parcio Canolfan Siopa Ffordd y Brenin. Ar ôl parcio mae’n daith gerdded fer (tua 400m) o’r maes parcio i fynedfa’r amgueddfa (i gyd ar yr un lefel).

Darllenwch am fannau parcio eraill yng nghanol dinas Casnewydd.

Bysus - Mae mannau gollwng amrywiol yng nghanol y ddinas. Ffoniwch (01633) 263600 i weld ble bydd eich bws yn eich gollwng chi.  

Trenau - Mae Gorsaf Casnewydd ar Queensway ac mae’n daith gerdded o tua 10 munud.