Jiwbilî Blatinwm y Frenhines
Ar 6 Chwefror 2022, Ei Mawrhydi y Frenhines oedd y Teyrn Prydeinig cyntaf i ddathlu Jiwbilî Blatinwm, gan nodi 70 mlynedd o wasanaeth i bobl y Deyrnas Unedig, y Tiriogaethau a'r Gymanwlad.
I ddathlu'r pen-blwydd digynsail hwn, cynhelir digwyddiadau a mentrau drwy gydol y flwyddyn, gan arwain at benwythnos gŵyl banc pedwar diwrnod yn y DU o ddydd Iau 2 i ddydd Sul 5 Mehefin.
Bydd y penwythnos hir hwn yn rhoi cyfle i gymunedau a phobl ledled y Deyrnas Unedig ddod at ei gilydd i ddathlu'r garreg filltir hanesyddol.
Mae Casnewydd yn paratoi i nodi Jiwbilî Blatinwm y Frenhines gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau a fydd o fudd i'r ddinas gyfan.
Llwybr y Ffagl (30 Ebril - 12 Mehefin)
Bydd Casnewydd yn cymryd rhan mewn llwybr realiti estynedig wedi'i gynllunio'n arbennig a fydd yn creu cyffro ac yn codi ymwybyddiaeth yn y pedair wythnos cyn cynnau Ffagl y Jiwbilî.
Mae'r llwybr yn brofiad lle mae’r chwaraewyr yn ymweld â saith cymeriad sydd wedi dod yn fyw o Balas Buckingham i ymweld â lleoliadau o amgylch Casnewydd ar ddiwrnod allan.
Mae’r chwaraewyr, dan arweiniad Syr Barnaby Beacon, yn ymweld â phob cymeriad, gan ddysgu am ddegawd wahanol yn teyrnasiad 70 mlynedd Ei Mawrhydi ac yn 'dewis eu hantur eu hunain' wrth iddynt symud o amgylch y llwybr.
Darganfod mwy
Ffaglau Jiwbilî'r Frenhines
Mae Ffaglau’r Jiwbilî yn un o ddigwyddiadau swyddogol y Jiwbilî Blatinwm. Caiff miloedd o ffaglau eu goleuo gan gymunedau, elusennau a grwpiau ledled y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU.
Ar nos Iau 2 Mehefin, caiff ffagl Casnewydd ei goleuo ar faes y Frenhines Elizabeth II, Ringland. Gwahoddir y cyhoedd i fod yn bresennol i gydnabod gwasanaeth hir a dihunan y Frenhines.
Cinio Jiwbilî Mawr Casnewydd
Bydd Casnewydd yn cynnal Cinio Jiwbilî Mawr ddydd Sul 5 Mehefin ym Mharc Beechwood.
Bydd dathliadau cenedlaethol y Jiwbilî Platinwm yn cael eu dangos ar sgrin fawr, ac fe'ch anogir i ddod â phicnic ac ymuno yn y dathliadau.
Mae’r cynlluniau'n cael eu cwblhau, ond mae’n sicr y bydd hwyl i'r teulu cyfan gydag adloniant a lluniaeth ar gael.
Partïon stryd – ceisiadau nawr ar gau
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cefnogi partïon stryd yn ystod y penwythnos gwyliau banc 4-diwrnod.
Caeodd y ceisiadau i gau ffyrdd ar gyfer y jiwbilî ar 1 Mai 2022
Os nad yw parti stryd yn addas ar gyfer eich ardal neu os nad oes modd cau ffyrdd, mae syniadau eraill hefyd o ran sut y gallwch nodi'r achlysur yn eich cymuned.
Canopi Gwyrdd y Frenhines
Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn fenter plannu coed unigryw sy'n gwahodd pobl ledled y Deyrnas Unedig i ‘blannu coeden ar gyfer y Jiwbilî’.
Yn ystod wythnos gyntaf mis Mawrth, cynhaliwyd seremonïau plannu coed arbennig mewn pum ysgol yng Nghasnewydd. Dewiswyd ysgolion cynradd Maesglas, Alway, Gaer, Sain Silian a Llys Malpas gan iddynt ddathlu eu hagoriadau swyddogol yn yr un flwyddyn â choroni Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
Mae llyfryn coffa arbennig wedi’i greu hefyd yn myfyrio ar yr ysgolion bryd hynny a heddiw.
Mae cyfle i holl ysgolion Casnewydd blannu coeden yn rhan o'r fenter canopi gwyrdd hefyd.
Ym Mharc Tredegar, mae rhodfa newydd â mwy nag 80 o goed wedi’i chreu, gan greu gwell amgylchoedd ar hyd rhan o un o lwybrau beicio allweddol y dinasoedd.
Cais am statws Arglwydd Faer
Mae Casnewydd wedi gwneud cais am statws Arglwydd Faer yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines. Disgwylir cyhoeddiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Bydd mwy o fanylion am y digwyddiadau a'r gweithgareddau cyffrous hyn a rhai eraill sy'n cael eu datblygu gan y Cyngor a'i bartneriaid ar hyn o bryd yn cael eu rhyddhau yn nes at yr amser.