COVID-19: cymorth i fusnesau
Gweler ein tudalen Cymorth COVID-19 i fusnesau Casnewydd am fanylion grantiau, benthyciadau a chymorth ariannol arall a help sydd ar gael i fusnesau.
Busnesau bwyd: rydym yn hepgor ein ‘ffioedd talu am gyngor’, dysgwch sut y gallwn eich cefnogi.
Tenantiaid manwerthu a diwydiannol y Cyngor: Efallai bod rhai o'n tenantiaid masnachol yn wynebu anawsterau o ran talu eu rhent oherwydd effaith y coronafeirws, cysylltwch â corporate.premises@newportnorse.co.uk i drafod sut y gallwn eich cynorthwyo.
Cau busnesau a safleoedd
Ffoniwch ein tîm safonau masnach ar (01633) 414970 os ydych yn credu bod busnesau'n methu â chydymffurfio â mesurau ymbellhau cymdeithasol priodol a byddwn yn ymchwilio i hynny.
Mae agor yn groes i'r rheoliadau yn drosedd.
Gellir dod o hyd i ganllawiau ar fusnesau a allai agor gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol a'r rhai y mae'n rhaid iddynt aros ar gau ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cyswllt
Er mwyn cysylltu â gwasanaethau cymorth busnes Cyngor Dinas Casnewydd, anfonwch e-bost at business.services@newport.gov.uk
TRA127359 28/10/2020