English

Bwyd Stryd a Cherddoriaeth Fyw

Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd y dydd Sul yn parhau â'r thema bwyd ac adloniant. Bydd yna fasnachwyr bwyd stryd, cerddoriaeth fyw ac adloniant ar y Stryd Fawr, yn dod â sblash o liw a naws carnifal i’r digwyddiad.

I'r ymwelwyr iau, bydd y Gyfnewidfa Ŷd yn cynnal disgo i blant.

Cerddoriaeth 

11am         Eurekas
Mae'r rocwyr Indi o Gasnewydd ar y llwyfan am yr ail flwyddyn yn olynol.  Y tro hwn gallwch ddisgwyl perfformiad band llawn gan fand sydd wedi eu sefydlu eu hunain fel rhai i'w gwylio ar sîn De Cymru.

11.45am   Tom Anthony 
Mae perfformiad y cerddor o Gaerdydd, sy'n "creu roc a rôl i oedolion", yn cyd-fynd â rhyddhau ei albwm cyntaf ac mae’n barod i'ch cyflwyno chi i'w frand unigryw o roc a rôl. 

12.30pm  Hair Dye
Paratowch ar gyfer sŵn heintus Hair Dye. Mae'r band o 4 pync o Gasnewydd yn addo caneuon a fydd yn dal yn eich meddwl yr wythnos nesaf.

1.15pm     The Serene Scene 
Yn syth ar ôl rhyddhau eu sengl newydd bydd y band yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yng Nghasnewydd ddydd Sul.  Mae'r band yn cymysgu elfennau o alt-roc a phop, ac maen nhw’n fodlon  mynegi emosiynau anodd a’u gwthio eu hunain yn gerddorol. 

2pm          Upstairs at Hanna’s 
Rocyrs amgen sy'n ymfalchïo mewn caneuon bachog, storïau cryf, llinellau arweiniol esgynnol, a rhythmau grŵfi.  Maent yn gyfuniad o ddylanwadau sy'n golygu nad oes modd rhoi un label sengl ar eu harddull.

2.45pm    Tears for Beers 
Bydd band 4 person yn hanu o Bontypridd ac sydd wedi bod yn gigio'n ddi-baid mewn gwyliau ledled De Cymru yr haf hwn yn dod â'u brand o gerddoriaeth i'r llwyfan ddydd Sul.

4pm           Taffy Was a Thief
Yn union fel Eurekas, bydd Taffy Was a Thief yn dychwelyd am yr ail flwyddyn yn olynol. Band sy'n addo llwyth o genres yn amrywio o bop i roc, o’r blues i soul.

Gweithgareddau ac adloniant i blant

11am             
Sinema i blant - Ratatouille (PG), Glass Hall, Marchnad Casnewydd

11am - 11.30am        
Ecstatic Cinematic, Adloniant stryd crwydro

12pm - 4pm             
Modelu balwn, High Street

12pm - 4pm
Disgo plant, Corn Exchange, High Street

12.30pm - 1.30pm   
Ecstatic Cinematic, Adloniant stryd crwydro

1.30pm
Sinema i blant - Willy Wonka and the Chocolate Factory (U), Glass Hall, Marchnad Casnewydd

2.30pm - 3pm           
Ecstatic Cinematic, Adloniant stryd crwydro

M

Newport FF Skyline black-1200