Gŵyl Fwyd Casnewydd 2024 Mae Gŵyl Fwyd Casnewydd yn ôl! Bydd Gŵyl Fwyd Casnewydd yn dychwelyd i'r ddinas ym mis Hydref. Yn dilyn llwyddiant yr ŵyl estynedig yn 2023, cynhelir yr ŵyl eleni dros benwythnos dydd Gwener 11 i ddydd Sul 13 Hydref. Nos Wener bydd gwesty clodwiw’r Mercure yn cynnal swper yr ŵyl fwyd am yr ail flwyddyn yn olynol. Gyda bwydlen wedi'i chreu gan noddwr yr ŵyl fwyd a’r deiliad seren Michelin, Hywel Jones, cogydd gweithredol yng ngwesty a sba Lucknam Park, mae'n sicr o fod yn noson bleserus i bawb! Bydd canol y ddinas yn dod yn fyw ar y dydd Sadwrn ar gyfer y farchnad fwyd boblogaidd lle bydd masnachwyr yn leinio’r strydoedd yn cynnig amrywiaeth o fwyd a samplau - digon i dynnu dŵr o’r dannedd. Bydd yna Bentref Figan hefyd yn Sgwâr John Frost, wedi’i drefnu gan Friars Walk. Bydd Marchnad Casnewydd yn cynnal yr arddangosiadau coginio unwaith eto, gan ddechrau gyda’r gystadleuaeth Cogyddion Ifanc gydag Academi Ieuenctid Casnewydd. Bydd rhai o'r cogyddion lleol gorau hefyd yn arddangos prydau blasus trwy gydol y dydd a gallwch hyd yn oed flasu eu creadigaethau! I'r ymwelwyr iau, bydd y Gyfnewidfa Ŷd yn cynnal disgo i blant. Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd y dydd Sul yn parhau â'r thema bwyd ac adloniant. Bydd yna fasnachwyr bwyd stryd, cerddoriaeth fyw ac adloniant ar y Stryd Fawr, yn dod â sblash o liw a naws carnifal i’r digwyddiad. Cael blas o'r digwyddiad ar YouTube Be Sy’ Mlaen Dinas Casnewydd - porth digwyddiadaunewydd lle gallwch weld yr holl ddigwyddiadau anhygoel sydd gan Gasnewydd i'w cynnig - gyda'i gilydd mewn un lle. Gweld beth arall sydd ymlaen yng Nghasnewydd Dilynwch ni: Facebook Twitter Instagram