English

Marchnad Fwyd

Bydd y farchnad fwyd draddodiadol yn cael ei sefydlu yng nghanol y ddinas, gydag adloniant stryd, arddangosiadau pen-cogyddion ym Marchnad Casnewydd, pentref fegan a llysieuol yn Sgwâr John Frost.

Bydd hefyd arddangosiadau gan ben-cogyddion yn ogystal â dychwelyd rownd derfynol cystadleuaeth Pen-cogydd y Glasoed. 

Bydd amrywiaeth o adloniant mewn gwahanol leoliadau trwy gydol y dydd i weld ein hamserlen adloniant

Bydd amrywiaeth eang o arddangoswyr eleni yn barod i lenwi eich oergelloedd â danteithion gan gynnwys cigoedd, caws, perlysiau a jamiau, mathau o fara a chacennau a chrempogau i basteiod, olewau a sawsiau.

Pan fyddwch yn dechrau llwgi o archwilio'r arlwy a'r gweithgareddau, bydd digon o ddewis i lenwi’r bol - bwyd Asiaidd, Eidalaidd neu Gymreig, byrgyrs, pizza ac wrth gwrs rhywbeth melys at ddant pawb!

Ein masnachwyr

Westgate Square

Bridge Street

High Street

Corn Exchange

Stalls montage 1

Newport FF Skyline black-1200