Manylion y digwyddiad

Arddangosfa: Home: In Another Land gan Glenn Edwards

Dominoes Africa Cafe - Newport Glenn Edwards

Gwybodaeth allweddol

Lleoliad
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
Pris
£0.00
Dyddiad/amser dechrau
22/06/2024 09:30
Dyddiad/amser gorffen
14/09/2024 16:00
Dyddiau agored
Maw, Mer, Iau, Gwe, Sad
Math o ddigwyddiad
Arddangosfa
Hygyrchedd
Croeso i gŵn cymorth
Mynediad i gadeiriau olwyn
Mae delweddau Glenn Edwards yn canolbwyntio ar yr 8 mlynedd diwethaf a phrofiadau cymunedau Affricanaidd yng Nghymru.

Yn dechrau gyda seremoni bendithio babi newydd-anedig ac yn gorffen gyda ffarwel mab yng ngwasanaeth coffa ei fam, cawn gipolwg rhwng y ddau ddigwyddiad ar fywydau preifat a chyhoeddus pobl – y gwahanol ddiwylliannau, yr hunaniaethau deuol, y crefyddau, y dathliadau, y gerddoriaeth, y cyflawniadau, y gweithredu ar gyfer newid a'r straeon personol sy'n ein rhwymo ni i gyd.

Cerddi gan Samantha Vazhure.