Prisiau
Ymwelydd dydd - oedolion - £4
Ymwelydd dydd - plant (16 oed ac iau) - £3
Mae'n rhoi mynediad i'r droedffordd uchel, platfform y tŷ modur a chroesfannau diderfyn ar y diwrnod prynu.
Croesiad sengl
Oedolyn - £1.50
Plentyn - £1.00
Croesiad a Dychwelyd
Oedolyn - £2.00
Plentyn - £1.50
Plant 2 oed a iau am ddim.
Mae'r staff yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i blant a phobl ifanc nad ydynt yng nghwmni oedolyn.
Ymweliadau Grŵp
Rydym yn croesawu ymweliadau grŵp a drefnwyd ymlaen llaw. Anfonwch e-bost i Transporter.bridge@newport.gov.uk i drefnu.
Lawrlwythwch y ffurflen gais isod ar gyfer ymweliad gan grŵp, ei llenwi a’i dychwelyd a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Ffurflen gais am ymweliad grŵp (pdf)
Ffurflen gais am ymweliad grŵp (Word)
Diogelwch
Rydym am i chi fwynhau eich ymweliad â'r Bont Gludo.
Mae rhai agweddau ar y bont, yn enwedig y dringo i'r lefel uchel, yn her ac os ydych am ddringo'r bont dylech ddilyn y canllawiau diogelwch hyn a sicrhau:
- * eich bod yn gallu dringo'r 270 o risiau
- * nad oes gennych unrhyw gyflyrau hysbys ar y galon/ysgyfaint
- * nad ydych yn feddw nac o dan ddylanwad cyffuriau
- * nad ydych yn dioddef o fertigo
- * y gallwch ddringo'r grisiau heb gymorth
- * nad ydych yn cario plant
- * eich bod yn cymryd sylw o'r wybodaeth am ddiogelwch sydd ar gael
Cyfrifoldeb rhieni a gofalwyr yw penderfynu a yw plant neu bobl yn eu gofal yn gallu dringo i'r lefel uchel.
Peidiwch ag anghofio gwirio'r tywydd. Nid yw'n ddiogel dringo i'r top mewn amodau gwlyb neu wyntog iawn ac nid yw'n braf iawn ychwaith!
Lleoliad
Canolfan Ymwelwyr, Y Bont Gludo, Stryd Brunel, Casnewydd, De Cymru NP20 2JY
Wedi'i staffio gan Gyfeillion y Bont Gludo. Gallwch ddysgu mwy am y bont a phrynu cofrodd o'ch ymweliad.
I gael rhagor o wybodaeth am hanes y bont, oriel luniau, nwyddau ac ymholiadau aelodaeth ewch i wefan Cyfeillion Pont Gludo Casnewydd
Rhif Ffôn +44 (0)1633 656656